Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Gorffennol ffrwydrol, dyfodol gwyllt
Rhwng 1865 ac 1995, roedd y gornel hon o Orllewin Cymru’n fyd-enwog am ei harbenigedd mewn ffrwydron. Roedd y lleoliad anghysbell a’r cymoedd naturiol â’u hochrau serth yn lleoliad perffaith ar gyfer ffatri arbenigol a oedd, yn ei hanterth, yn cyflogi mwy na 500 o bobl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cynhyrchwyd mwy nag 17 miliwn o grenadau ar y safle yma! Daeth yr Ymddiriedolaeth Natur yn berchen ar y safle pan gafodd ei ddatgomisiynu – ers hynny, natur sydd wedi ffrwydro yma …
Heddiw, wrth grwydro drwy’r gymysgedd hyfryd o gynefinoedd a syllu ar y golygfeydd godidog, mae’n anodd dychmygu hanes diwydiannol y safle. Mae’r coetir yn gartref i nythod y tingoch, y gwybedog brith a chorhedydd y waun ac ar ddiwrnod o haf, mae’r llennyrch glaswellt yn llefydd gwych i weld glöynnod byw a blodau gwyllt. Mae’r rhostir ar y tir uwch yn fan cuddio i’r troellwr cyfrinachol ac i ymlusgiaid yn torheulo: mae pedwar allan o’r chwe rhywogaeth o ymlusgiaid yn y DU i’w gweld yma. Mae gorffennol diwydiannol y safle wedi darparu cynefinoedd perffaith ar gyfer ei drigolion mwyaf arwyddocaol, ystlumod pedol lleiaf, sy’n gwneud eu cartref yn yr hen adeiladau a thwnelau.
Oeddech chi’n gwybod?
Yr Ystlum Pedol Lleiaf yw un o rywogaethau lleiaf y DU – wrth glwydo, mae’n lapio ei adenydd am ei gorff ac mae tua’r un maint ag eirinen! Mae’n ffyslyd iawn hefyd, gan ffafrio clwydo mewn adeiladau o frics neu gerrig gyda thoeau llechi.
Cyfarwyddiadau
Dilynwch y ffordd allan o Benrhyndeudraeth am Bont Briwet (y bont dros Afon Dwyryd am Harlech). Dilynwch y ffordd gyntaf i Stad Ddiwydiannol Cooke, gan ei dilyn am tua 80m at giatiau’r warchodfa. Mae posib parcio yma (SH 616 388) neu ymhellach i lawr y ffordd tuag at Bont Briwet (SH 618 384)