Sut i wirio eich coelcerth am ddraenogod
Mae coelcerthi yn beryglus iawn i ddraenogod gan fod pentyrrau coed yn llefydd delfrydol i gysgodi. Yn anffodus, mae llawer o ddraenogod yn cael eu dal mewn coelcerthi heb eu gwirio ac yn cael eu lladd o'u herwydd nhw.
Dyma 4 awgrym i’ch helpu chi i osgoi niweidio draenogod yn eich coelcerth:
Storiwch y deunyddiau ar gyfer eich coelcerth mewn lle diogel – wedyn ar y diwrnod rydych chi am danio, symudwch y deunyddiau i ddarn arall o dir.
Adeiladwch y goelcerth ar yr un diwrnod ag y byddwch yn mynd ati i’w thanio. Po hiraf y bydd yn sefyll yn yr un lle, y mwyaf tebygol ydi draenogod o grwydro i mewn iddi.
Gosodwch y goelcerth ar dir agored bob amser – byth ar bentwr o ddail oherwydd fe all draenog fod yn cuddio oddi tanyn nhw.
Gwiriwch y goelcerth gyfan am ddraenogod cyn ei thanio. Maen nhw’n tueddu i guddio yng ngwaelod canol y pentwr.
Os dewch chi o hyd i ddraenog, symudwch yn araf ac yn dawel. Codwch y draenog gyda menig garddio, ochr yn ochr ag unrhyw ddeunydd nythu y gall fod wedi bod yn eistedd ynddo, a'i roi mewn bocs cardfwrdd wedi'i leinio gyda phapur newydd. Symudwch y bocs i leoliad diogel a rhyddhewch y draenog o dan lwyn neu bentwr o foncyffion.