Roedd Simon Smith, oedd yn cael ei adnabod yn fwy cyfarwydd fel ‘Simon DK’ o ganlyniad i’w statws chwedlonol fel DJ ac aelod a sylfaenodd system sain DiY Nottingham ar ddiwedd yr 80au, yn gymeriad unigryw ym mywydau llawer o bobl, dyn arbennig a ddatblygodd i fod, fwy na thebyg, y DJ parti am ddim enwocaf yn y wlad, gan ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i gamu at y deciau.
Gan chwilio am gyfnod o seibiant o’i fywyd prysur, dychwelodd Simon i ogledd Cymru, i gartref ei deulu yn Llanychan, ychydig y tu allan i Ruthun yn Nyffryn Clwyd. Yn 2012, dechreuodd wirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Natur… ei dasg gyntaf oedd helpu i greu Gardd Bywyd Gwyllt newydd er budd plant Barnardo’s ger ysgol uwchradd yn Rhuthun. Roedd ei angerdd dros helpu eraill, yn bobl a bywyd gwyllt, yn amlwg iawn o'r diwrnod cyntaf hwnnw.
Wedyn fe ddechreuodd Simon ymwneud â’r ‘Prosiect Adfer Perllannau’, ac yng nghmwni hen ffrind ysgol iddo, Richard Kellett, fe wnaeth o a gwirfoddolwyr eraill greu cyfeillgarwch newydd, a threulio sawl diwrnod hir a hapus o aeaf yn tocio ac yn adfer perllannau traddodiadol ledled gogledd ddwyrain Cymru. Fe fu Simon yn ymwneud yn uniongyrchol ag adfer dwsinau o berllannau traddodiadol yn ogystal â chreu bron pob un o’r 50+ o berllannau ysgol newydd a mwy na 25 o berllannau cymunedol a gafodd eu creu yng ngogledd ddwyrain Cymru rhwng 2012 a 2019. Cyfrannodd hyn at atal y dirywiad enfawr mewn cynefinoedd perllannau ar draws y wlad.