Mae cyllid cychwynnol o fwy na £500,000 wedi cael ei sicrhau gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) i wella cyflwr Corsydd Ynys Môn ac i helpu i sicrhau eu bod yn goroesi ar gyfer bywyd gwyllt a phobl yn y dyfodol.
Bydd arian grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Esmée Fairbairn, yn ogystal â Dŵr Cymru / Welsh Water, yn helpu i ddatblygu cynlluniau i warchod ein corsydd gwerthfawr. Mae’r rhain yn cynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghors Erddreiniog rhwng Capel Coch a Brynteg, Cors Bodeilio ger Talwrn; a GNG Cors Goch, ger Llanbedrgoch, sy’n cael ei rheoli gan YNGC, yn ogystal â’r cynefinoedd cors o amgylch yr ardaloedd hyn.
Mae corsydd – gwlybdiroedd alcalïaidd sy’n cronni mawn – yn storio llawer iawn o garbon, yn gweithredu fel cronfeydd carbon naturiol ac yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau prin fel y tegeirian llydanwyrdd bach, tegeirian y clêr, yr ele feddyginiaethol a mursen y de. Mae gwarchod a gwella'r tirweddau unigryw hyn yn helpu i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.