Roedd Glanhau Traeth Plast Off 2024 yn cynnwys dau leoliad gwahanol ar Ynys Môn eleni – daeth staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd i Borth Trecastell a Bae Trearddur i helpu i glirio’r arfordir.
Ym Mhorth Trecastell, cawsom ein gwirfoddolwyr ifanc o Hyrwyddwyr Achub Cefnfor a Fforwm Ieuenctid Sefyll Dros Natur Cymru i gyd yn helpu i redeg y digwyddiad. Dyma gofnod byr o'r diwrnod gan Anna Williams - Mentor Hyrwyddwyr Achub Cefnfor (16 oed):
"Roedd Plast Off 2024 yn ffordd dda iawn o ddechrau’r flwyddyn newydd drwy ddod â llawer o bobl ynghyd i wneud rhywbeth da i’r amgylchedd.
Roedd nifer fawr o bobl yn bresennol ar y diwrnod, ac roedd pawb yn ymddangos yn barod iawn ac yn hapus i wneud eu rhan.
Uchafbwynt y diwrnod oedd siarad â Rhun ap Iorwerth (Aelod Senedd Ynys Môn) a Llinos Medi (Arweinydd Cyngor Ynys Môn). Cyrhaeddon nhw wrth i'r digwyddiad ddechrau ac roeddent yn awyddus iawn i gwrdd â ni i gyd a helpu. Roedd gan y ddau ddiddordeb mawr yn yr hyn yr oeddem yn ei wneud a gofynasant lawer o gwestiynau i mi, ac roeddent yn fwy na pharod i ateb fy holl gwestiynau. Buom yn sgwrsio am bwysigrwydd cynnal digwyddiadau fel Plast Off, y problemau a achosir gan sbwriel ar draethau, a sut i’w atal. Siaradom hefyd am "nurdles", a pha mor anodd yw cael gwared arnynt o’r amgylchedd oherwydd eu maint bach, yn ogystal â’r perygl y maent yn ei achosi i fywyd gwyllt oherwydd y cemegau niweidiol sydd ynddynt. Roeddwn yn ddiolchgar iawn eu bod wedi mynychu’r digwyddiad ac wedi helpu i gael gwared ar sbwriel Porth Trecastell."