Saith cyngor doeth ar gyfer profiadau bywyd gwyllt anhygoel: camp crefft maes

Saith cyngor doeth ar gyfer profiadau bywyd gwyllt anhygoel: camp crefft maes

Stonechat ©Ben Hall/2020VISION

Ewch ati i wella eich siawns o weld bywyd gwyllt gyda chyngor crefft maes gan Matthew Capper, gwyliwr adar brwd, ffotograffydd a phennaeth cyfathrebu gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Lincoln.

Arsylwi byd natur ym mhob man

Ble bynnag rydw i’n mynd, rydw i'n chwilio am fywyd gwyllt yn gyson. Wrth gerdded i lawr y stryd, rydw i’n sylwi ar gân y dryw neu nodau ailadroddus y fronfraith. Mae gweld blodau gwyllt ar hyd llwybr troed yn cyfoethogi fy mhrofiad dyddiol i. Wrth i'ch gwerthfawrogiad chi o fyd natur gynyddu, felly hefyd eich chwilfrydedd am grefft maes.

Beth yw crefft maes?


Mae crefft maes yn ymwneud â meistroli'r ymddygiadau a'r gweithredoedd sy'n angenrheidiol ar gyfer arsylwi bywyd gwyllt, ynghyd â dealltwriaeth o’r rhywogaethau, eu hymddygiad a'u hamgylcheddau. Mae sgiliau crefft maes nid yn unig yn rhoi cyfle i chi weld a phrofi bywyd gwyllt rhyfeddol ond hefyd yn meithrin parch at y rhywogaeth a'r cynefin mae'n byw ynddo.

1. Cadwch eich pellter

Rhaid i les y bywyd gwyllt ddod yn gyntaf. Meddyliwch am y ffordd rydych chi'n symud. Cerddwch yn dawel, gan osod eich traed yn ofalus, yn araf ac yn dawel. Ceisiwch beidio â sefyll allan yn erbyn y gorwel - defnyddiwch linellau coed a gwrychoedd a chadwch ar lefel isel os oes angen.

Un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei ddysgu fel rhywun sy'n frwd dros fywyd gwyllt yw'r 'cylch ofn' – y pellter sy’n achosi i anifeiliaid ffoi. Mae deall hyn yn eich helpu chi i gadw pellter parchus, arsylwi heb darfu ar y bywyd gwyllt a gwylio am fwy o amser.

A short-eared owl flying over a grassland in orange dusk light

Short-eared owl © Ben Hall/2020VISION

2. Gadewch i'r bywyd gwyllt ddod atoch chi

Er bod y demtasiwn i symud yn nes i gael golygfa well yn fawr, mae rhai o fy nghyfarfyddiadau gorau i â bywyd gwyllt wedi digwydd pan rydw i wedi gadael i fywyd gwyllt ddod ataf i. Os gwelwch chi rywbeth yn y pellter, dewiswch le i eistedd yn ofalus ac aros.

 

3. Y lle iawn ar yr amser iawn

Amseru yw popeth wrth arsylwi bywyd gwyllt. Dysgwch pryd mae rhai rhywogaethau yn fwyaf gweithredol neu weladwy oherwydd ymddygiadau tymhorol fel gaeafgysgu neu fudo a chynlluniwch eich tripiau yn unol â hynny. Rydw i’n gwybod nad yw’r gwenoliaid duon yn fy nhref leol i’n dychwelyd tan tua diwedd yr wythnos gyntaf ym mis Mai, er fy mod i’n dechrau edrych i fyny i’r awyr, yn fwy mewn gobaith nac o ran disgwyl gweld unrhyw beth, o ddiwedd mis Ebrill ymlaen.

Mae rhoi eich hun yn y lle iawn ar yr amser iawn yn allweddol ac mae llawer o bobl sy’n hoff iawn o fywyd gwyllt yn dilyn calendr o olygfeydd bywyd gwyllt bob blwyddyn.

 

4. Olion ac arwyddion

Mae dysgu darllen olion ac arwyddion yn ffordd wych o gyfyngu eich chwiliad. Er enghraifft, mae llwybr mochyn daear yn weddol hawdd ei adnabod drwy’r glaswellt neu o dan ffens. Gall aros i’r anifeiliaid ddefnyddio’r llwybr yma yn y gwyll fod yn brofiad gwerth chweil a bydd yn cynyddu eich siawns chi o weld y creaduriaid yn fawr.

A phan mae gorchudd da o eira, rydw i wrth fy modd yn mynd allan i ddod o hyd i olion adar a mamaliaid, gan dracio eu symudiadau a cheisio gweld pwy sydd wedi bod ymhle.

 

A badger's footprint in a patch of mud, with five toes around an oblong pad

Badger track © Philip Precey

5. Byddwch yn ddoeth o ran y tywydd

Mae'r tywydd yn rhyfeddol o bwysig wrth wylio bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn. Ar ddyddiau cynhesach byddwch yn fwy tebygol o weld creaduriaid o gwmpas y lle. Fe all mymryn o heulwen ddenu nifer o bryfed ac adar allan, sy'n llechu’n gudd ar ddyddiau cymylog llwyd.

 

6. Bywyd gwyllt sy'n dod gyntaf

Mae mwynhau bywyd gwyllt yn fraint a dylid ei wneud yn gyfrifol, nid ar draul unrhyw greaduriaid. Mewn tywydd oer er enghraifft, os byddwch chi’n tarfu ar adar rhydio wrth iddyn nhw fwydo ar draeth, maen nhw'n colli amser bwydo gwerthfawr cyn i'r llanw nesaf ddod i mewn. Efallai eich bod chi'n meddwl nad oes ots am hyn, un waith. Ond pan mae’r person nesaf yn cyrraedd, ac wedyn y nesaf, mae’r tarfu cyson wir yn gallu bod y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth.

Er nad yw’n grefft maes fel y cyfryw, mae gen i dair rheol euraidd ar gyfer unrhyw brofiad bywyd gwyllt. Y cyntaf yw cadw cŵn ar dennyn ac oddi wrth unrhyw fannau lle nad ydynt yn cael bod, yn ail, cadw at lwybrau troed i osgoi sathru ar lystyfiant ac, yn drydydd, sicrhau bod unrhyw sbwriel yn cael ei roi mewn biniau neu ei gludo adref.

 

A flock of wading birds feeding on a muddy beach, with wind turbines out at sea in the distance

Waders feeding on the shore © Andy Rouse/2020VISION

7. Dillad ac offer sylfaenol

Er y gallwch chi fwynhau bywyd gwyllt heb unrhyw gyfarpar, weithiau gall rhywfaint o offer wella eich profiad chi o wylio natur. Gall sbienddrych fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwylio adar ac anifeiliaid eraill sydd ddim yn gadael i chi fynd yn agos iawn atyn nhw. Os gallwch chi, buddsoddwch yn y sbienddrych gorau y gallwch chi ei fforddio – dros amser, fe fydd yn eich gwobrwyo chi. Weithiau mae gwarchodfeydd natur sydd â chanolfannau ymwelwyr yn llogi sbienddrych, er mwyn i chi gael blas ar y gweithgarwch heb orfod mynd i gost eich hun.

Mae'n llawer haws cael golwg fanwl ar bryfed, planhigion a llawer o rywogaethau eraill heb unrhyw welliant optegol. Mae cymaint i'w archwilio heb edrych drwy sbienddrych o gwbl! Os ydych chi eisiau mynd â'ch gwylio planhigion a thrychfilod bach i lefel arall, ystyriwch ddefnyddio lens llaw. Maen nhw ar gael am brisiau amrywiol a byddant yn datgelu manylion newydd am rywogaethau cyfarwydd.

Gall eich dewisiadau chi o ran dillad eich helpu i fynd yn nes at natur. Bydd gwisgo lliwiau tawel fel gwyrdd a brown yn golygu na fyddwch chi'n amlwg. Bydd dewis ffabrigau naturiol fel cotwm yn golygu na fyddwch chi'n siffrwd pan fyddwch chi'n symud.

 

Profiadau bywyd gwyllt cyfranogol

Fel popeth arall, mae angen ymarfer i berffeithio’r grefft a chyfuniad o'r holl elfennau hyn sy'n dod at ei gilydd i feithrin gwybodaeth a darparu profiadau bywyd gwyllt mwy cyfranogol. Mae gwylio byd natur wedi bod yn broses ddiddiwedd sydd wedi bod yn gonglfaen i fy mywyd i ac sy’n parhau i roi cymaint o bleser a mwynhad i mi bob dydd.