Gwarchodfa Natur Old Pulford Brook Meadows
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Rhaid cael trwydded i fynd i’r warchodfa natur ymaAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Llifogydd o flodau
Yn y gwanwyn, yr hydref a’r gaeaf, efallai bod y casgliad yma o gaeau’n edrych yn eithaf cyffredin ar yr olwg gyntaf. Ond, o’u gweld yn yr haf, mae eu pwysigrwydd fel un o’r esiamplau gorau sy’n weddill o ddôl gorlifdir yng Nghymru yn amlwg: cewch eich cyfarch gan enfys ryfeddol o liw a phryfed yn fwrlwm o’u cwmpas. Mae pom-pom porffor, tal y bwrned mawr yn nodweddu’r ddôl yma, gyda pheradyl yr hydref, ytbysen y waun a’r erwain a’u harogl cryf i’w gweld erbyn diwedd yr haf. Mae llwynogod, ysgyfarnogod, gwyddau Canada ac elyrch ymhlith rhai o’r cymeriadau lliwgar mwy sy’n byw yma ar wahanol adegau o’r flwyddyn.
Heddiw, mae’r dolydd gwlyb yma’n gynefin prin, dan fygythiad, ar ôl dirywio’n ddramatig yn ystod y ganrif ddiwethaf. Arferai gorlifdiroedd fod yn ardaloedd hynod werthfawr fel rhan o dir amaethyddol, oherwydd y cyfoethogi rheolaidd ar lifwaddod a maethynnau wrth i afonydd orlifo’u glannau’n naturiol yn ystod y gaeaf. Mewn ymgais i sicrhau amaethu mwy proffidiol, mae’r ardaloedd hyn wedi cael eu draenio’n artiffisial ac mae camlesi a chloddiau wedi’u codi ger prif afonydd – fel bod posib ffermio’r tir am gyfnodau hirach yn ystod y flwyddyn a’i droi’n borfa barhaol a chnydau âr. Mae arferion o’r fath wedi arwain at golli mwy na 95% o’n glaswelltir brodorol, sy’n gatastroffig ac wedi esgor ar ganlyniadau o ran lliniaru llifogydd, ansawdd dŵr a ffrwythlondeb y pridd
Gwartheg a thorri
Yn debyg iawn i ddolydd gwair confensiynol, mae’r gwair yn cael ei dorri ganol yr haf ac wedyn mae gwartheg yn pori’r safle rhwng misoedd Awst a Hydref. Er hynny, yr hyn sy’n gwneud y cynefinoedd gorlifdir penodol yma’n unigryw yw eu perthynas â’r afon: maent yn dibynnu ar faethynnau’n cael eu cludo arnynt gan y llifogydd blynyddol, yn ystod y gaeaf fel rheol. Mae’r amseru’n allweddol – os ydynt dan ddŵr am gyfnod rhy hir, mae’r pridd yn datblygu i fod yn anaerobig, gan newid ei strwythur; os nad yw’r dŵr arnynt am ddigon o amser, nid oes digon o faethynnau’n cael eu gwaddodi, gan achosi newid yn y gymuned o blanhigion. Felly mae draenio ar ôl llifogydd yn hanfodol bwysig, ac mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn rheoli’r ffosydd a’r draeniau traed ar draws y safle er mwyn rheoleiddio’r broses.
Cyfarwyddiadau
Mae Old Pulford Brook Meadows i’w gweld i’r de o Poulton ger yr Orsedd-goch, Wrecsam, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r tir yn rhan o Stad y Grosvenor ac yn eiddo i seithfed Dug Westminster.