
Marford Quarry Nature Reserve © NWWT Graham Berry

Pyramidal orchid - Paul Lane

Bee Orchid - Dawn Monrose

Marford Quarry Nature Reserve

Margaret Holland

Purple hairstreak © Philip Precey
Gwarchodfa Natur Chwarel Marford
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ac yr hafAm dan y warchodfa
Infertebrata anhygoel
Gyda mwy na 1,000 o rywogaethau wedi’u cofnodi, mae Chwarel Marffordd yn werddon i fywyd gwyllt – ac yn un o’r llefydd gorau yng Nghymru i infertebrata. Fel mae’r enw’n awgrymu, arferai’r safle gael ei chwarelu am flynyddoedd lawer (gan gyflenwi agregau ar gyfer y gwaith adeiladu ar Dwnnel Merswy). Ond bellach mae natur wedi hawlio’r safle’n ôl, mae pryfed yn ffynnu yn y gymysgedd o gynefinoedd ôl-ddiwydiannol ac mae sawl rhywogaeth brin wedi gwneud eu cartref yma.
Mae’r warchodfa’n hynod bwysig ar gyfer grŵp arbenigol o infertebrata, Hymenoptera colynnog (gwenyn, morgrug a gwenyn meirch), gyda nifer anhygoel o 171 o wahanol rywogaethau wedi’u cofnodi (2018). Mae morgrug yn ffynhonnell hynod bwysig o fwyd i’r gnocell werdd – wrth i chi grwydro ar hyd y rhwydwaith o lwybrau sy’n igam-ogamu ar hyd llawr y chwarel, gwrandewch am ei gri glwciog nodweddiadol. Yn y gwanwyn a’r haf, mae lliwiau llachar y tegeirianau a’r blodau gwyllt eraill yn cyd-fynd yn hardd â dail gwyrdd y warchodfa, ac mae fflachiadau o liw y 35 o rywogaethau o löynnod byw sy’n byw yma’n siŵr o ddal eich llygaid.
Tarfu ar y tir a phren marw
Mae’r gwaith yma’n canolbwyntio ar gynnal yr amrywiaeth o gynefinoedd sy’n gartref i gasgliad mor eang o flodau gwyllt ac infertebrata. Rydym yn tarfu ar y tir ac yn ei adael ar agor ar gylchdro, er mwyn annog planhigion olyniaeth gynnar ac infertebrata, fel y wenynen durio a rhywogaethau o wenyn meirch, sydd angen y pridd noeth, tywodlyd yma. Mae pren marw’n cael ei adael ar y safle hefyd, i’w ddefnyddio gan infertebrata prin eraill, ond mae’r prysgwydd yn cael ei glirio o rai ardaloedd er mwyn atal y coetir rhag sefydlu yng nghynefinoedd y glaswelltir.
Oeddech chi’n gwybod?
Y wenynen dingoch yw’r gwcw ym myd y pryfed. Mae’n dodwy ei hwyau yn nyth gwenyn unigol a chacwn eraill ac, ar ôl iddynt ddeor, mae’r larfa’n bwyta’r nythaid sydd piau’r nyth.
Cyfarwyddiadau
2.5 milltir i'r gogledd gogledd-ddwyrain o Wrecsam. Gan teithio tua’r De i mewn i bentref Marford ar y B5445, trowch i'r dde ag ar Springfield Lane. Mae lleoedd ar gyfer chwech car ychydig y tu hwnt i'r bont reilffordd (SJ 365 563). I fynd i mewn i'r warchodfa, cerddwch yn ôl o dan y bont reilffordd a chwiliwch am arwydd llwybr cyhoeddus a mynedfa'r warchodfa.
Rhywogaethau
Cysylltwch â ni

Marford sculpture trail © Lin Cummins
Marford Ryfeddol
Mae Gwarchodfa Natur Chwarel Marford, ger Wrecsam, yn fwrlwm o fioamrywiaeth! Mae’r safle tywodlyd a chyn-ddiwydiannol yma bellach yn llawn infertebrata – gyda mwy na 170 o rywogaethau gwahanol o wenyn, morgrug a gwenyn meirch wedi’u cofnodi yma! Mae ein llwybr cerfluniau pryfed newydd ni’n gwneud Chwarel Marffordd yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan!
Support us
Join today!