Rhyddhewch yr Afanc! Gweledigaeth newydd ar gyfer afancod yng Nghymru a Lloegr

Rhyddhewch yr Afanc! Gweledigaeth newydd ar gyfer afancod yng Nghymru a Lloegr

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar i gael gwared ar safleoedd caeedig a gweithredu er mwyn i afancod gael byw’n wyllt

Heddiw, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn cyhoeddi Gweledigaeth ar gyfer dychwelyd afancod i Gymru a Lloegr gan gyflwyno'r achos dros ddod â'r rhywogaeth allweddol hon yn ôl i afonydd yn y ddwy wlad. Mae afancod yn adnabyddus am eu heffeithiau hynod fuddiol ar wlyptiroedd a gallent chwarae rhan bwysig wrth atal llifogydd, hidlo dŵr a hybu cynefin bywyd gwyllt.

Dair blynedd ers dechrau ymgynghoriad Defra ar afancod a bron i ddwy flynedd ers i ddeddfwriaeth gydnabod afancod yn swyddogol fel rhywogaeth frodorol yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi methu dro ar ôl tro â rhoi’r camau angenrheidiol ar waith ar gyfer eu dychwelyd. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi trwyddedau ar gyfer dychwelyd afancod i’r gwyllt yn Lloegr a chyhoeddi cynlluniau strategol i alluogi ailgyflwyno afancod. Yng Nghymru mae diffyg deddfwriaeth o hyd ar ddiogelu afancod a galluogi eu rheolaeth effeithiol. Er gwaethaf arwyddion gwleidyddol blaenorol y byddai gollyngiadau i’r gwyllt yn cael eu caniatáu, nid yw wedi digwydd hyd yn hyn.

Mae gweledigaeth newydd yr Ymddiriedolaethau Natur yn egluro sut y byddai rhyddhau afancod i’r gwyllt – yn hytrach na mewn safleoedd caeedig a ganiateir ar hyn o bryd –yn galluogi afancod i ddod yn rhan o'n hecoleg frodorol, gan ddarparu'r offeryn adfer naturiol mwyaf pwerus i'n gwlyptiroedd dan fygythiad, ynghyd a llu o fanteision i gymdeithas.

Ym marn Rob Stoneman, cyfarwyddwr adfer tirwedd yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Mae manteision afancod yn cael eu cydnabod yn eang ac mae llawer o dystiolaeth – ond ledled Cymru a Lloegr, mae’r broses o ailgyflwyno’r rhywogaeth allweddol hon wedi arafu. Mae astudiaethau gwyddonol niferus wedi dangos bod afancod yn gwella ansawdd dŵr, yn sefydlogi llif dŵr yn ystod cyfnodau o sychder a llifogydd, ac yn rhoi hwb enfawr i gynefinoedd ac i fywyd gwyllt arall. O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae angen afancod yn ôl yn y gwyllt i roi help llaw i ni ddatrys yr heriau hyn.”

“Mae natur angen afancod - ond ar hyn o bryd mae'r mamaliaid hynod yma unai yn byw mewn llociau ble mae'r budd i'r gymuned yn gyfyngedig, neu wedi cael eu rhyddhau yn anghyfreithlon heb gynlluniau rheolaeth i gefnogi rheolwyr tir. Mae’n rhaid i Lywodraethau’r DU dderbyn bod afancod yma i aros a chofleidio’r nodweddion cadarnhaol gwych a ddaw yn eu sgil, fel y gall cymdeithas elwa hefyd.”

Adult beaver at Knapdale

Steve Gardner

Er mwyn cefnogi'r uchelgais i ddod ag afancod yn ôl i'r gwyllt, mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar Lywodraethau'r DU a Chymru i:

Gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol i ailgyflwyno afancod

  • Ariannu ffermwyr a rheolwyr tir yn y ddwy wlad er mwyn gwneud mwy o le i ddŵr ar eu tir
  • Gefnogi grwpiau rheoli afancod
  • Gadarnhau yr hawl i bob afanc gwyllt aros yng Nghymru a Lloegr
  • Adnabod afancod fel rhywogaeth frodorol yng Nghymru a rhoi amddiffyniad cyfreithiol llawn iddynt

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau ac awdurdodau i gefnogi rhyddhau afancod i’r gwyllt yn llwyddiannus ledled Cymru a Lloegr. Mae’r ymrwymiad hwn yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth y DU i ddiogelu 30% o dir ar gyfer byd natur erbyn 2030. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur eisiau gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau y gall Grwpiau Rheoli Afancod alluogi pobl i fyw mewn cytgord ochr yn ochr ag afancod.

Bydd gwaith modelu a wneir gan Brifysgol Caerwysg a’r Ymddiriedolaethau Natur yn helpu rheolwyr tir i ddeall pa ardaloedd sydd fwyaf addas ar gyfer afancod – bydd y gwaith hwn yn galluogi grwpiau afancod i ddeall ble i ganolbwyntio ymdrechion ailgyflwyno a rheoli.

Meddai Pete Burgess, cyfarwyddwr adfer natur Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint:.

“Ers 2011 cefais y fraint o gefnogi partneriaethau ailgyflwyno afancod a gwelais dros fy hun allu di gymar y rhywogaeth i ddod a bywyd yn ôl i’n hafonydd a’n gwlyptiroedd. Brwydrodd pobl yn Nyfnaint yn galed i gadw’r afancod pan gadarnhawyd eu bod yn bridio ar afon leol am y tro cyntaf yn 2014. Mae Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint bellach ar flaen y gad o ran cefnogi tirfeddianwyr, defnyddwyr afonydd a chymunedau i fyw ochr yn ochr ag afancod.

“Mae’r anifeiliaid hynod hyn wedi gwneud llawer dros dwristiaeth a busnesau lleol. Drwy ein partneriaeth â Phrifysgol Caerwysg rydym wedi dangos y llu o fanteision eraill y mae afancod yn eu darparu – megis lleihau’r llifogydd brig mwyaf niweidiol a darparu cyflenwadau cyson o ddŵr ar adegau o sychder. Mae astudiaethau annibynnol hefyd wedi dangos bod nifer y bobl oedd o blaid ailgyflwyno afancod wedi cynyddu i 90% ers dechrau Arbrawf Afanc Afon Otter.

Meddai yr Athro Richard Brazier, Cyfarwyddwr y Ganolfan Gwydnwch yn yr Amgylchedd, Dŵr a Gwastraff (CREWW) ym Mhrifysgol Caerwysg:

Mae corff sylweddol o dystiolaeth wyddonol yn cefnogi effeithiau cadarnhaol ailgyflwyno afancod. Nid yw’n syndod, fel rhywogaeth allweddol sydd wedi esblygu dros filiynau o flynyddoedd, fod yr afanc wedi addasu i greu ecosystemau sy’n gallu gwrthsefyll sychder, llifogydd a’r ystod eang o ffyrdd y mae bodau dynol yn diraddio’r amgylchedd. Byddem yn elwa o ddysgu oddi wrth y rhywogaeth hon. Mae adnewyddu ein cydfodolaeth â’r anifail hwn, ac felly alluogi’r afanc i addasu tirweddau a all eto ddarparu llu o wasanaethau ecosystem i gymdeithas, yn beth amlwg a synhwyrol i’w wneud.”

Beaver mother and kits

© Mike Symes Devon Wildlife Trust

Darllenwch ein Gweledigaeth ar gyfer dychwelyd afancod i Gymru a Lloegr

Gweledigaeth Afancod

Nodiadau'r golygydd:

Deddfwriaeth:Lloegr: Pasiwyd deddfwriaeth i amddiffyn afancod yn Lloegr ar 1af Hydref 2022. Historic day for beavers in England | The Wildlife Trusts. Mae afancod hefyd wedi'u rhestru fel rhywogaeth a warchodir gan Ewrop.

Yr Alban: New beaver strategy for Scotland | Scottish Wildlife Trust (2022)

Prosiect afancod Cymru: All about beavers | North Wales Wildlife Trust

Tair blynedd ers i ymgynghoriad afancod Defra ddechrau ar 25ain Awst 2021: Consultation on approach to beaver reintroduction and management in England - Defra - Citizen Space – gweler Summary of responses and next steps - GOV.UK (www.gov.uk) 2.9.22. Pan gyflwynodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice araith mewn un o safleoedd Ymddiriedolaeth Natur yn 2021, nododd y byddai'r Llywodraeth yn caniatáu rhyddhau I’r gwyllt - ond nid yw hyn wedi digwydd eto. Gweler Environment Secretary speech at Delamere Forest on restoring nature and building back greener - GOV.UK (www.gov.uk)

Tystiolaeth: Mae’r Ymddiriedolaethau Natur a sefydliadau partner wedi hel tystiolaeth annibynnol sylweddol  yn ymwneud ag afancod a’u heffeithiau. Mae ein cydweithrediadau â Phrifysgol Caerwysg wedi cynhyrchu 24 o bapurau gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid. Yn ogystal ag ymchwil yn y DU, mae astudiaethau pellach ar gyfandir Ewrop a degawdau o ymchwil yng Ngogledd America. Gweler River Otter Beaver Trial | University of Exeter and Beavers in enclosures | Devon Wildlife Trust.

Agweddau pobl: Canfu arolygon a gynhaliwyd yn lleol i’r afon Otter yn Nyfnaint, ac yn genedlaethol, gan ymchwilwyr Prifysgol Caerwysg yn 2017, fod 86% o 2,741 o bobl yn cefnogi ailgyflwyno afancod. Yn 2019, canfu arolygon ailadroddus fod 90% yn gefnogol (holwyd 386 o bobl). ROBT 2020 Update.pdf

Afancod yn yr Alban
Yn 2009, dychwelwyd afancod gwyllt i’r Alban mewn prosiect arloesol dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur yr Alban. Mae’r afanc bellach yn cael ei chydnabod fel rhywogaeth frodorol a warchodir yn gyfreithiol yn yr Alban. Yn ogystal, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban strategaeth hirdymor i helpu afancod i ymsefydlu ledled llynnoedd, nentydd ac afonydd yr Alban, fel bo pobl a bywyd gwyllt yn elwa o’u presenoldeb.

Yr Ymddiriedolaethau Natur ac Afancod

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi bod ar flaen y gad o ran llwyddiannau ailgyflwyno afancod ers degawdau. Rydym wedi:

    • Arwain safle caeedig cyntaf ar gyfer afancod ac yn bartneriaid arweiniol yn yr unig ddau ryddhad i’r gwyllt (Knapdale a Dyfnaint).
    • Adeiladu partneriaethau cryf gan gynnwys gyda chyrff anllywodraethol amgylcheddol, gwyddonwyr, llywodraeth y  DU a’r llywodraethau datganoledig a’u hasiantaethau, tirfeddianwyr, busnesau gwledig a sefydliadau pysgodfeydd
    • Sefydlu presenoldeb cryf ar lawr gwlad, sy'n rhoi gwybodaeth ardderchog i ni am amodau lleol a chysylltiadau â chymunedau.

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn barod i chwarae rhan flaenllaw i sicrhau y gellir cyflawni strategaeth uchelgeisiol ar gyfer ailgyflwyno afancod yn llwyddiannus mewn partneriaeth â phawb y mae ganddynt fudd yn iechyd ein gwlyptiroedd yn y dyfodol. Gweler Beavers | The Wildlife Trusts.

Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gwneud y byd yn fwy gwyllt ac yn helpu i sicrhau bod byd natur yn rhan o fywydau pawb. Rydym yn fudiad llawr gwlad o 46 o elusennau gyda mwy na 910,000 o aelodau a 35,000 o wirfoddolwyr. Ni waeth ble rydych chi ym Mhrydain, mae yna Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt sy’n ysbrydoli pobl ac yn achub, yn amddiffyn ac yn sefyll dros y byd naturiol. Gyda chefnogaeth ein haelodau, rydym yn gofalu am ac yn adfer dros 2,000 o safleoedd arbennig ar gyfer byd natur ar dir. Hefyd, byddwn yn cynnal prosiectau cadwraeth morol ac yn casglu data hanfodol ar gyflwr ein moroedd. Mae pob Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio o fewn ei chymuned leol i ysbrydoli pobl i greu dyfodol mwy gwyllt – trwy gynghori miloedd o dirfeddianwyr ar sut i reoli eu tir er budd bywyd gwyllt, yn ogystal â chysylltu cannoedd a miloedd o blant ysgol â byd natur bob blwyddyn.  www.wildlifetrusts.org