Helpwch ni i warchod un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Afon Cynfal, Eryri

Afon Cynfal, Eryri © Rory Francis

Helpwch ni i warchod un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri

Mae cynnig datblygu ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn bygwth bywyd gwyllt prin mewn SoDdGA.

Gwnewch yn siŵr bod eich llais chi’n cael ei glywed cyn 20 Medi!

Mae cais cynllunio wedi cael ei gyflwyno i godi argae ar Afon Cynfal ger Llan Ffestiniog, fel rhan o gynllun trydan dŵr. Bydd yr argae hwn yn dargyfeirio hyd at 70% o’r dŵr o Raeadr y Cwm, y rhaeadr eiconig yng Nghwm Cynfal, ac mae’r newid mewn hydroleg a fyddai’n digwydd yn fygythiad difrifol i’r mwsoglau a’r cwpanllysiau prin sy’n nodweddion yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Cynfal. Fel rhan o gynllun tebyg ar Afon Cwm Llechen, dim ond 21 milltir i ffwrdd, gwelwyd dirywiad o hyd at 43% mewn pedair o bob pum rhywogaeth dros gyfnod o ddeng mlynedd. 

Er bod Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cefnogi ynni gwyrdd yn gyffredinol, mae’r risgiau y mae’r cynllun hwn yn eu creu i fywyd gwyllt yn anghymesur â’r swm bach o drydan y byddai’n ei gynhyrchu – dim ond 600kW, digon ar gyfer dim ond 60 cawod pŵer trydan! 

Dywed Adrian Lloyd Jones, Pennaeth Tirweddau Byw gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: “O ystyried y swm bach o bŵer y byddai’r cynllyn pŵer trydan dŵr (HEP) arfaethedig yma’n ei gynhyrchu, a’r dirywiad mewn cymunedau o fryoffytau, gan gynnwys cornllysiau, cwpanllysiau a mwsoglau, a welwyd yn dilyn cynllyn HEP tebyg mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru, mae'r cynllun yma’n peri llawer gormod o risg i fywyd gwyllt Cwm Cynfal. Er ein bod ni’n cefnogi ynni gwyrdd, rhaid i bob datblygiad fod yn y lle iawn, ac mae’r cynnig yma, yn amlwg, yn y lle anghywir.” 

Codi ein llais yn erbyn y cynllun

Fe allwch chi helpu i warchod y bywyd gwyllt yng Nghwm Cynfal 

Mae Achub Ein Hafonydd, Cymdeithas Eryri, Buglife ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd i atal y datblygiad hwn rhag niweidio bywyd gwyllt gwerthfawr Cwm Cynfal. Rydyn ni'n annog pawb sy'n hoff o fyd natur i'n helpu ni! 

Anfonwch lythyr i Barc Cenedlaethol Eryri cyn 20fed Medi yn gwrthwynebu’r cynnig datblygu hwn. Gallwch ddefnyddio’r ddolen e-weithredu isod i anfon llythyr parod o wrthwynebiad i’r awdurdod cynllunio. Os ydych chi’n dymuno, fe allwch chi hefyd olygu'r llythyr i adlewyrchu eich barn chi eich hun cyn i chi ei gyflwyno. 

Ysgrifennu llythyr fel bod eich llais yn cael ei glywed

Gwylio lluniau drôn o Gwm Cynfal yma