Arolwg adar gaeaf Cemlyn

Oystercatcher looking for a meal

Oystercatcher © Terry Whittaker/2020VISION

Arolwg adar gaeaf Cemlyn

Lleoliad:
Helpwch ni i arolygu’r adar sy’n ymweld â’n Gwarchodfa Natur ni yng Nghemlyn y gaeaf yma

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Gwarchodfa Natur Cemlyn, Cemaes, Ynys Môn, LL67 0EA. Maes parcio gorllewinol Bryn Aber, ger y tŷ mawr, w3w///gallons.beakers.pounds

Dyddiad

Time
11:00am - 2:00pm
A static map of Arolwg adar gaeaf Cemlyn

Ynglŷn â'r digwyddiad

Oes gennych chi ddiddordeb mewn adar? Os felly, dewch i ymuno â ni a helpu i arolygu’r adar sy’n ymweld â’n Gwarchodfa Natur ni yng Nghemlyn y gaeaf yma.

Mae Gwarchodfa Natur Cemlyn yn arbennig o dda ar gyfer adar dŵr ac adar rhydio ac mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld pa adar sy'n defnyddio'r warchodfa yma.

Does dim angen unrhyw brofiad, dim ond diddordeb mewn byd natur a bod yn yr awyr agored. Dewch â'ch sbienddrych a'ch llyfrau adnabod adar gyda chi os oes gennych chi rai.

Mae ein prosiect Natur yn Cyfrif ni angen eich help chi i gofnodi byd natur yn ein gwarchodfeydd ni. Byddwn yn cofnodi llawer o fyd natur ar draws nifer o’n gwarchodfeydd ni dros y flwyddyn nesaf, felly cadwch lygad am fwy o ddigwyddiadau arolygu sydd i ddod yn fuan!

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ar dennyn
image/svg+xml

Symudedd

Nid yw’r esgair o ro mân yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau, ac mae'n heriol i'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Gall cerdded ar hyd yr esgair fod yn anodd iawn ac mae'r gro mân serth yn ei wneud yn anaddas ar gyfer pramiau a chadeiriau olwyn.


Byddwn yn cerdded allan ar yr esgair ar gyfer yr arolwg, ond mae'n bosibl helpu gyda'r arolwg o ardaloedd mwy hygyrch o amgylch y warchodfa.
Does dim toiledau yn y warchodfa yma. 

image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â diod cynnes a dillad awyr agored addas gyda chi.

Cysylltwch â ni