
Caeau Pen y Clip_Damien Hughes

Snipe © Margaret Holland

Gatekeeper(c) Philip Precey

Greenfinch © Mark Ollett
Gwarchodfa Natur Caeau Pen-y-Clip
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Yr hafAm dan y warchodfa
Gwrychoedd iach
Wedi’i hamgylchynu gan lystyfiant tal a thrwchus, mae’n hawdd anghofio bod y warchodfa hon ar gyrion tref. Coed derw ac ynn yw asgwrn cefn y gwrychoedd trawiadol sy’n darparu bwyd a chysgod i lawer o adar, mamaliaid bychain ac infertebrata. Gellir clywed y fronfraith a’r aderyn du’n canu o’r clwydi uchel yn y coed; mae heidiau o’r llinos werdd a’r nico yn hedfan uwch ben, dan alw; ac mae llwyd y berth a choch y berllan i’w gweld yn bwydo yng nghanol y mieri a rhosod y cŵn. Mae’r glaswelltir yn frith o flodau yn ystod y gwanwyn a’r haf, gyda phys y ceirw melyn llachar yng nghanol porffor y tegeirianau brych cyffredin a’r bengaled. Mae’r ardaloedd gwlypach wedi’u gorchuddio gan bigau brwyn, sydd wedi’u hysgeintio â thuswau gwyn yr erwain.
Cyfarwyddiadau
Mae Caeau Pen y Clip gerllaw tref Porthaethwy. Gadewch yr A55 yng Nghyffordd 8A, gan ddilyn yr A5 i gyfeiriad Porthaethwy ac, yn y cylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ar Ffordd Pentraeth. Ewch heibio i Ysgol David Hughes ar y chwith ac wedyn troi i’r dde nesaf ar ffordd Penlon. Dilynwch y ffordd i’r pen draw, gan barcio ar yr ochr a dringo dros y gamfa i mewn i’r warchodfa.