
false - Ben Porter
Barddoniaeth a choed yng Ngwarchodfa Natur Nantporth
Gwarchodfa Natur Nantporth,
Bangor, Gwynedd, LL57 2BN (northern entrance)Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae Ness Owen yn fardd lleol sydd wedi cyhoeddi ei gwaith ac sydd â gwybodaeth ddofn am goed a’u llên gwerin, a drosglwyddwyd drwy genedlaethau. Ymunwch â ni am daith gerdded drwy Warchodfa Natur Nantporth, gwarchodfa goetir dawel uwchben y Fenai. Wrth i ni grwydro’n hamddenol drwy’r dirwedd hudolus yma, byddwn yn oedi i fwynhau ychydig o farddoniaeth Ness ac i ddysgu am y bywyd gwyllt lleol a harddwch naturiol y warchodfa. Ar hyd y ffordd, byddwn yn stopio i ymlacio a mwynhau cinio picnic.
Bardd a darlithydd o Ynys Môn yw Ness Owen ac mae ei cherddi wedi cael eu cyhoeddi a’u darlledu’n eang ar Radio 4. Naming the Trees (Arachne, 2025) yw ei thrydydd casgliad, yn dilyn Mamiaith (Arachne, 2019) a Moon Jellyfish Can Barely Swim (Parthian, 2023). Enillodd Ness wobr Cerdd i’r Blaned 2022 Greenpeace ac mae’n gydolygydd Afonydd: Poems for Welsh Rivers sydd i gael ei gyhoeddi.
Mae ei cherdd ‘Penrhos’ yn ymddangos yn rhifyn y gwanwyn o gylchgrawn aelodau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – beth am ddod yn aelod heddiw a darllen mwy.
Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 11:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar.
Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg o dymunwch.