Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am rifft broga

Frog sat on frog spawn

Frog and spawn © Richard Burkmar

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am rifft broga

Mae grifft broga’n ymddangos mewn pyllau yn gynnar yn y gwanwyn pan mae’r tywydd yn dechrau cynhesu a'r dyddiau'n oleuach. Edrychwch ar rai cwestiynau cyffredin i gael gwybod mwy!

1. Pa fath o rifft sydd gen i?

Mae grifft broga’n cael ei ddodwy mewn clystyrau mawr, mewn dŵr bas fel rheol. Mae grifft llyffant mewn cadwyni hir ac yn cael ei ddodwy mewn dŵr dyfnach fel rheol. Mae madfallod dŵr yn dodwy wyau unigol ar ddail planhigion pwll.

Frog spawn

Frog spawn, NWWT Lin Cummins

2. Oes gormod o rifft broga yn fy mhwll i?

Gan fod gan benbyliaid lawer o ysglyfaethwyr naturiol a'u bod yn agored i glefydau amffibiaid, mae brogaod benywaidd yn dodwy miloedd o wyau bob blwyddyn. Dim ond ychydig iawn fydd yn goroesi i fod yn oedolion, felly does dim y fath beth â gormod o rifft mewn gwirionedd!

3. Pam nad yw'r grifft yn fy mhwll i wedi datblygu'n iawn?

Mae llawer o resymau pam na fydd grifft yn datblygu. Mae angen llawer o olau haul a chynhesrwydd ar rifft broga i ddatblygu'n iawn, felly gall methiant y grifft ddigwydd pan fydd gormod o gysgod, os yw’r pwll yn rhy ddwfn, neu os bydd rhew hwyr.

Common toad tadpoles swimming in a pond

Common toad tadpoles © Vaughn Matthews

4. Oes posib i mi symud y grifft i bwll gwahanol?

Gall symud grifft neu benbyliaid i byllau newydd ledaenu rhywogaethau ymledol a chlefydau amffibiaid. Efallai na fydd y pwll newydd yn addas ar gyfer brogaod hefyd, felly dydyn ni ddim yn argymell ei symud. Gall pyllau gynnwys pentwr du o benbyliaid yn gwingo ond dyma sut dylent fod.

5. Mae gen i lawer o fadfallod dŵr ond dim brogaod. Pam?

Mae madfallod dŵr yn bwyta grifft broga a phenbyliaid, felly bydd pwll gyda phoblogaeth fawr o fadfallod dŵr yn tueddu i fod â llai o frogaod. Fodd bynnag, gall penbyliaid brogaod cyfnod hwyr fwyta penbyliaid madfallod dŵr, felly efallai na fydd gan bwll gyda digon o frogaod lawer o fadfallod dŵr. Gallant gydfodoli os yw'r niferoedd yn fwy cytbwys. Efallai bod eich pwll chi’n fwy addas ar gyfer madfallod dŵr na brogaod, ond dydi hyn ddim yn beth drwg, ac mae cynefin madfallod dŵr yr un mor werthfawr â chynefin brogaod.

Common frogspawning

© Jon Dunkelman

6. Rydw i wedi dod o hyd i rifft brogaod mewn pwll sydd mewn perygl o sychu – beth ddylwn i ei wneud?

Mae brogaod yn aml yn dodwy grifft mewn pyllau bach iawn, a chyrff dŵr dros dro eraill, sy'n cynnig yr amodau delfrydol o ddŵr cynnes, bas. Gall fod yn strategaeth fentrus ond y gobaith yw y bydd y grifft a’r penbyliaid yn datblygu’n ddigon cyflym i dyfu’n frogaod bach cyn i’r pwll sychu.

Dydyn ni ddim yn cynghori symud grifft neu benbyliaid rhwng pyllau oherwydd y risg o drosglwyddo clefydau amffibiaid, felly mae’n well gadael i natur ddilyn ei chwrs. Os ydych chi eisiau rhoi help llaw iddyn nhw, fe allech chi fagu rhai mewn tanc neu fwced o ddŵr glaw, ac wedyn rhyddhau’r brogaod bach yn ôl yn y lleoliad lle daethoch chi o hyd iddyn nhw.

A very close up picture of a common frog. Only the head is visible and in focus, taking up most of the image. It has a pale throat and it's mouth is almost a straight line of pink. It's skin is mottled with shades of brown, green and nearly gold. It's eyes stick up from the rest of it's head and are looking almost forwards at the camera. They have deep black pupils, in which reflections of people can be seen on the right, ringed with a thin layer of gold, surrounded by a mottled black and gold iris. The res

Common frog © Mark Hamblin/2020VISION

7. Rydw i wedi dod o hyd i froga neu rifft mewn bwced neu leoliad anarferol arall – beth ddylwn i ei wneud?

Weithiau mae brogaod yn dodwy grifft mewn llecynnau dieithr, yn enwedig os nad oes pwll addas gerllaw. Gall yr oedolion gael eu dal mewn cynwysyddion ag ochrau serth, felly mae’n well eu codi nhw’n ofalus a’u gosod mewn darn o laswellt tal neu lystyfiant trwchus. Bydd cysgod rhag yr haul iddyn nhw yno a byddant yn ddiogel rhag ysglyfaethwyr.

Os oes gennych chi bwll, gallwch symud y broga a / neu’r grifft i'r dŵr. Os nad oes gennych chi bwll, ystyriwch greu un – ac yn y cyfamser, gallwch fagu’r grifft mewn powlen neu fwced neu ar hambwrdd bas o ddŵr glaw, wedi’i osod mewn safle heulog, cysgodol.

Dysgwch fwy am sut gallwch chi wneud eich gardd yn gyfeillgar i fywyd gwyllt. Darganfyddwch sut i greu’r pwll perffaith, dod â gwenyn yn ôl, gofalu am adar a llawer mwy!

Archwilio ein cyngor garddio er budd bywyd gwyllt