Morloi Gwych!
Mae morloi llwyd i’w gweld bron yn unrhyw le ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Edrychwch allan am ben yn siglo o gwmpas ar wyneb y dŵr neu mewn rhai mannau fe'u gwelir mewn niferoedd mawr yn gorffwys ar y lan, i fwrw lloi neu flew. Hwy yw’r mwyaf o’r ddwy rywogaeth o forloi a welir o gwmpas y DU – y llall yw’r morlo cyffredin sydd ddim mewn gwirionedd yn gyffredin o gwbl o amgylch Gogledd Cymru. Mae ein dyfroedd arfordirol yn bwysig ar gyfer y rhywogaeth anhygoel hon am sawl cyfnod yn eu cylch bywyd.
Yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru rydym yn derbyn nifer fawr o ymholiadau am forloi felly rydym wedi casglu ychydig o atebion i’r ymholiadau neu’r pryderon mwyaf sydd yn codi...
Be' i wneud os...
...rydych eisiau cofnodi digwyddiad o aflonyddu
Yn anffodus mae tarfu ar fywyd gwyllt yn broblem fawr yma yng Ngogledd Cymru ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a sawl sefydliad arall ar y cynllun Operation Seabird gyda’r nod o fynd i’r afael â’r broblem hon. Os gwelwch anifeiliaid yn cael eu haflonyddu ac os ydych yn teimlo bod yr aflonyddwch yn sylweddol, gallwch roi gwybod i Operation Seabird drwy ffonio 101.
...ydych chi wedi dod o hyd i gi morlo wedi'i adael gan y fam
Rhowch ychydig o amser i edrych yn fanwl ar yr anifail
Ydych chi'n siŵr bod yr anifail mewn trafferth? Mae morloi iach yn dod allan o'r dŵr yn rheolaidd i orffwys ac mae morloi bach (morloi gyda chôt wen a blew hir yn yr hydref / gaeaf, neu lai na 3 troedfedd o hyd yn yr haf) yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain yn aml am gyfnodau byr. Y peth gorau i'w wneud yw cadw llygad o bell.
Os yw'r anifail yn amlwg yn sâl, yn dioddef o ddiffyg maeth (asennau i’w gweld yn glir) neu'n ymddangos fel morlo bach wedi’i adael yn amddifad, cysylltwch â:
British Divers Marine Life Rescue (www.bdmlr.org.uk) ar 01825 765546 neu 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999
...am gyngor a chymorth. Ar ôl i chi ffonio am help, cadwch lygad o bellter diogel a cheisio cadw pobl eraill a chŵn draw.
Peidiwch â mynd yn rhy agos - gall morloi frathu’n gas.
...ydych chi wedi dod o hyd i forlo wedi'i anafu/salwch
Os yw'r anifail yn amlwg yn sâl, yn dioddef o ddiffyg maeth (asennau i’w gweld yn glir) neu'n ymddangos fel morlo bach wedi’i adael yn amddifad, cysylltwch â:
British Divers Marine Life Rescue (www.bdmlr.org.uk) ar 01825 765546 neu 07787 433412 (tu allan i oriau); neu’r RSPCA ar 0300 123 4999
...am gyngor a chymorth. Ar ôl i chi ffonio am help, cadwch lygad o bellter diogel a cheisio cadw pobl eraill a chŵn draw.
Peidiwch â mynd yn rhy agos - gall morloi frathu’n gas.
...ydych wedi dod o hyd i forlo marw
Dylech osgoi cyffwrdd â'r anifail a gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn golchi eich dwylo os bydd unrhyw gyswllt yn cael ei wneud; gall anifeiliaid morol marw, fel unrhyw anifail arall, gario clefyd neu haint. Os teimlwch fod yr anifail yn berygl i iechyd y cyhoedd cysylltwch â'ch Cyngor lleol.
Os mai llamhidydd, dolffin neu forfil sydd wedi golchi i fyny cysylltwch â Cetacean Stranding Investigation Programme y DU ar 0800 652 0333. Bydd hyn yn helpu i roi darlun cywir o fywyd morol yn y DU, yn ogystal â gwybodaeth werthfawr am achosion marwolaeth.
We’re a part of the Wild Seas Wales partnership. Below are some handy animations to learn more and share how to respect the wild nature of our grey seals.
Pupping time means a fair bit of chaos for our grey seal populations and incredibly fragile times for pups and mothers.