
Snail eggs © Lucy Mills
Bywyd pwll: Cyflwyniad
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen,
Bangor, Gwynedd, LL57 3YH
Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen,
Bangor, Gwynedd, LL57 3YHDarganfyddwch y pyllau yn y warchodfa natur yma sydd â choetir a gwlybdir, a helpu i gofnodi ein bywyd gwyllt rhyfeddol.
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Byddwn yn mynd â chi drwy'r camau o gynnal arolwg pwll a chofnodi'r canlyniadau, ac yn eich dysgu chi am fanteision gwyddoniaeth y dinesydd yn y sesiwn hyfforddi yma.
Croeso i ddechreuwyr.
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif. Yn ystod ein digwyddiadau, byddwn yn cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.
Mae’r prosiect yma’n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur ac yn cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Bwcio
Pris / rhodd
Anogir rhoddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
Oedolion, Arbenigwyr, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Cysylltwch â ni
Rhif Cyswllt: 07375520494
Cysylltu e-bost: helen.carter-emsell@northwaleswildlifetrust.org.uk