Ein hanes, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a’r bobl sy’n gweithio i adfer byd natur yng Ngogledd Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn un o 46 o Ymddiriedolaethau Natur sy’n gweithio ledled y DU. Yn rhan o fudiad ar lawr gwlad, rydym yn credu ein bod ni angen natur a bod natur ein hangen ni. Mae mwy na 900,000 o aelodau a 39,000 o wirfoddolwyr yn cydweithio â’u Hymddiriedolaeth Natur i wneud eu hardal leol yn wylltach ac i wneud byd natur yn rhan o fywyd, i bawb.
Ein hanes
Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru ar Hydref 26ain 1963. Dros 60 mlynedd yn ddiweddarach efallai bod ein henw wedi newid, ond mae’r cymhelliant a ysbrydolodd ein sylfaenwyr ni yn parhau yr un fath. Dros y blynyddoedd mae nifer y gwarchodfeydd mae’r Ymddiriedolaeth yn gofalu amdanyn nhw wedi cynyddu'n gyson, gyda'r arwynebedd tir rydym yn ei reoli bellach yn gorchuddio mwy na 950 hectar, diolch i roddion o dir a phryniannau safle drwy godi arian. Rydym bellach yn cyflogi mwy na 70 aelod o staff ac yn rheoli cyllideb o tua £4m – sy’n gwbl wahanol i’n dechrau digon di-nod.r.
Ein pobl
Dim ond drwy ymdrech ar y cyd ein staff a’n gwirfoddolwyr ni mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn y gwarchodfeydd, yn y dirwedd ehangach, yn ein hamgylchedd morol ac yn ein cymunedau yn bosibl. Rydym yn cael ein cymell gan ein cred ar y cyd bod Gogledd Cymru sy'n gyfoethog mewn bywyd gwyllt ac yn cael ei werthfawrogi gan bawb yn llesol i fywyd gwyllt a phobl.
Sut rydyn ni'n cael ein cyllido
Elusen yw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac, o’r herwydd, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth tanysgrifiadau aelodaeth, rhoddion, grantiau, ewyllysiau a ffynonellau cyllido eraill er mwyn gwneud ein gwaith yn gofalu am fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru..
Sut rydyn ni’n codi arian

Sut rydyn ni’n gwario arian
