Wrth galon y Prosiect Lles Ein Hafon mae Afon ryfeddol DyfrdwyORW Swyddog Prosiect, NWWT
Yn rhan o’r Strategaeth Ein Tirwedd Fyw, cafodd y Prosiect Lles Ein Hafon ei greu i ymgorffori dull Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru o weithredu gyda phobl yn cydweithio dros fywyd gwyllt. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles ein Gwarcheidwaid Afon Gwirfoddol. Mae hyn drwy reolaeth gynaliadwy ar Ddalgylch Afon Dyfrdwy, gan ganolbwyntio ar reoli, dileu ac atal lledaeniad rhywogaethau estron ymledol.
Darganfod Dalgylch Afon Dyfrdwy
Mae dalgylch Afon Dyfrdwy yn 110km o hyd ac yn cynnwys Afonydd Dyfrdwy, Alun, Alwen, Clywedog, Ceiriog, Wych a Thryweryn a Llynnoedd Tegid, Brenig, Celyn a Chronfa Ddŵr yr Alwen. Mae cynnal iechyd a lles yr ardal enfawr hon yn bwysig iawn gan ei bod yn cynnwys y canlynol:
- Un Ardal o Harddwch Eithriadol,
- Un safle RAMSAR
- Tair Gwarchodfa Natur Genedlaethol
- Tair Ardal Cadwraeth Arbennig
- Tri deg tri o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae hefyd yn enwog am ei thirnodau, yn ogystal â’i llecynnau pysgota a chanŵio gwych, a’r cyfan yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd.
Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) yw rhywogaethau, boed anifeiliaid, planhigion, pryfed neu barasitiaid, sydd wedi cael eu cyflwyno y tu allan i’w hamrediad brodorol. Maent yn achosi difrod i’n hamgylchedd ni a hefyd yn bygwth iechyd a lles anifeiliaid a phobl.
Pam ddylem ni boeni?
Mae INNS wedi cael eu cydnabod fel un o’r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth a chyfraddau diflaniad yn fyd-eang. Maent yn bryder oherwydd eu bod yn gallu gwneud y canlynol:
- Cystadlu â rhywogaethau brodorol am ofod, golau, dŵr a bwyd
- Cynyddu pa mor agored i niwed yw ein hamgylcheddau ni i ymledu pellach
- Cael effaith negyddol ar iechyd ein hamgylchedd drwy leihau bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr
- Lleihau ein gallu i fwynhau a chael mynediad i gyrff o ddŵr ar gyfer chwaraeon a hamdden
- Cael effaith negyddol ar dwristiaeth
- Cael effaith negyddol ar yr economi
- Gall clystyrau trwchus o dyfiant arafu llif afonydd a chynyddu’r risg o lifogydd
- Niweidio seilwaith
Mae INNS dŵr croyw yn peri pryder arbennig oherwydd lefel uchel y cysylltedd rhwng amgylcheddau. Mae afonydd yn llifo drwy lawer o wahanol gynefinoedd a gallant gynyddu symudiad INNS i ardaloedd newydd, heb eu heffeithio o’r blaen.
Gallwch chi chwarae rhan fawr mewn gwarchod Dalgylch Afon Dyfrdwy drwy gynorthwyo ein tîm penodol ar gyfer y Prosiect Lles Ein Hafon gyda rheoli ac atal INNS.
Ymuno â’r Rhwydwaith o Warcheidwaid Afon
Mae’r Rhwydwaith o Warcheidwaid Afon yn grŵp o wirfoddolwyr brwd sy’n cyfarfod yn rheolaidd er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles a hefyd iechyd a lles Afon Dyfrdwy a’i his-afonydd. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd ac i sicrhau bod ein hafonydd a’n llynnoedd yn iach ac yn gallu gwella ein lles ni.
Pam bod yn Warcheidwad Afon Gwirfoddol?
Drwy ddod yn Warcheidwad Afon Gwirfoddol, gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys y canlynol:
Arolygon Mae’r gwarcheidwaid afon yn cynnal arolygon am INNS ar hyd Afon Dyfrdwy a’i his-afonydd. Mae’r gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ar sut i adnabod INNS a sut i gynnal arolygon. Mae’r data o’r arolygon yn cael eu defnyddio wedyn i helpu i gynllunio pa waith sydd angen ei wneud ac ymhle.
Rheoli INNS Mae staff y prosiect Lles Ein Hafon yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau rheoli INNS drwy gydol yr haf a’r hydref ac yn gwerthfawrogi’r holl help a’r gefnogaeth mae ein gwirfoddolwyr rhyfeddol ni’n eu rhoi i helpu i fynd i’r afael ag INNS yn eu dalgylch.
Meddwlgarwch Mae’r gwarcheidwaid afon yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau awyr agored i roi hwb i’w lles drwy gysylltiad â byd natur.
Crefft y Gwyllt Mae’r gwarcheidwaid afon yn cael sesiynau yng nghelfyddyd crefft y gwyllt i roi hwb i’w lles ac i wella eu sgiliau goroesi. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys sut i danio a chynnal tân a choginio ar dân gwersylla.
Hyfforddiant Mae’r gwarcheidwaid afon gwirfoddol yn cael cyfle i gael hyfforddiant wedi a heb ei achredu am ddim, a gwella eu cyfleoedd gyrfaol. Gallwch ddysgu amrywiaeth o sgiliau newydd drwy ddod yn warcheidwad afon.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am fod yn Warcheidwad Afon Gwirfoddol, cysylltwch â:
Helen Carter-Emsell, Swyddog Prosiect Gwarcheidwaid Afon Lles Ein Hafon
Bod yn rhan o’ch Grŵp Gweithredu INNS Lleol
Ydych chi’n poeni am INNS yn eich ardal ac eisiau gwneud mwy am hynny? Efallai bod grŵp gweithredu INNS yn eich ardal chi y gallech ymuno ag ef, neu fel arall gallech sefydlu eich grŵp eich hun. Gall tîm y Prosiect Lles Ein Hafon eich cynghori, eich hyfforddi a’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am grwpiau gweithredu lleol INNS, cysylltwch â:
Gemma Rose, Swyddog Prosiect Lles Ein Hafon
Rhoi gwybod am weld INNS
Beth am ddod yn rhan o’r rhwydwaith cynyddol o wyddonwyr y dinesydd sy’n ein helpu ni i ganfod INNS newydd a heb eu darganfod yn Nalgylch Afon Dyfrdwy. Tynnwch lun a nodi’r lleoliad, ac wedyn ymweld â thudalen DINNS ar wefan y ganolfan cofnodion amgylcheddol lleol, Cofnod, i gyflwyno’r hyn rydych chi wedi’i weld.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am gyflwyno cofnod am rywogaeth estron ymledol, cysylltwch â:
Gemma Rose, Swyddog Prosiect Lles Ein Hafon