Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) wedi bod yn rheoli Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) yn Nalgylch Afon Dyfrdwy drwy Brosiect Rhywogaethau Estron Ymledol y Ddyfrdwy a Phrosiect Lles Ein Hafonydd ers degawd. Diolch i ymdrechion blynyddol parhaus staff, contractwyr a gwirfoddolwyr YNGC, mae’r ffromlys chwarennog wedi gostwng yn sylweddol i lefelau isel yn Nalgylch Uchaf y Ddyfrdwy.
OND rydyn ni eisiau gwneud mwy!!
Nod Prosiect Rheoli INNS y Ddyfrdwy Uchaf a Chanol y Ddyfrdwy (UMDIM) yw arolygu a rheoli tua 45km o Afon Dyfrdwy ar gyfer ffromlys chwarennog, canclwm Japan, a phidyn-y-gog Americanaidd rhwng Corwen a Newbridge, Gogledd Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag YNGC, contractwyr, Grwpiau Gweithredu Lleol, a gwirfoddolwyr.
Mae arnom ni eich angen CHI!!
Gallwch chi helpu Prosiect UMDIM i gyflawni ei nodau.
Beth am fod yn Hyrwyddwr Bywyd Gwyllt Afonydd
Edrychwch ar ein tudalen newyddion am y dyddiau hyfforddi diweddaraf am ddim mewn INNS ac ymwybyddiaeth bioddiogelwch, Diogelwch Afonydd, a defnydd diogel wedi’i achredu o blaladdwyr.
Tynnu planhigyn!
Edrychwch ar ein blog ni ar sut gallwch chi helpu i reoli ffromlys chwarennog yn eich ardal leol chi.
![Biosecurity for walkers](/sites/default/files/styles/scaled_default/public/2021-05/WhatsApp%20Image%202021-05-21%20at%2010.04.17.jpeg?itok=0igt_t5L)
Biosecurity boot cleaning station at Tŷ Mawr County Park, lower carpark ©NWWT
Am fwy o wybodaeth am y prosiect a sut i gymryd rhan, cysylltwch gyda:
Gemma Rose Swyddog Prosiect Rhywogaethau Estron Ymledol
![Nature Networks Fund logo](/sites/default/files/styles/scaled_default/public/2022-10/Black%20-%20Lottery%20and%20Welsh%20Gov%20partner%20PNG%20logo.png?itok=ZWj2Mrz3)