Stori Rhodri
Mae Rhodri Thomas yn cynnal arwerthiant cacennau i godi arian i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru – ac wedyn yn rhedeg 10km i wneud iawn am y calorïau fydd wedi’u bwyta!
Sylwch mai enghraifft yn unig yw'r dudalen 'Rhodri Thomas' yma.
Gallwch ddefnyddio'r adran hon i ysgrifennu unrhyw beth rydych chi'n ei hoffi amdanoch chi'ch hun a'r gwaith codi arian rydych chi'n ei wneud - ac yr hoffech chi iddo gael ei arddangos ar eich tudalen. Efallai yr hoffech chi ddweud ychydig wrthym am eich cefndir? Neu roi manylion am amser a dyddiad unrhyw ddigwyddiad? Neu dywedwch wrth eich cefnogwyr pam eich bod wedi dewis Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i elwa o’ch gwaith caled anhygoel? Chi sydd i benderfynu.
Gallwch hefyd uwchlwytho un neu fwy o luniau - ohonoch chi'ch hun? O beth rydych chi'n ei wneud? Neu rywogaeth neu le gwyllt arbennig sy'n bwysig i chi? Unwaith eto, chi sydd i benderfynu - dim ond enghreifftiau yw'r rhai rydyn ni wedi'u nodi isod. Os oedden nhw’n arbennig o hoff o warchodfa natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gallwch ddweud wrthym - a byddwn yn dewis llun sydd gennym eisoes ar gyfer y prif 'bennawd' ar y dudalen hon.
Yn olaf, sylwch nad oes raid i chi roi cyfanswm yr hoffech ei godi (y 'nod' fel y dangosir uchod). Os yw'n well gennych chi, gall y raffeg ddangos cyfanswm byw yn unig - chi sydd i benderfynu.