
Common guillemots ©Mike Snelle

(Bridled) common guillemot ©Mike Snelle

Guillemot (winter-plumage) ©Tom Hibbert
Gwylog
Mae gwylogod yn gwybod yn iawn sut i fyw bywyd ar ymyl y dibyn – yn llythrennol! Maen nhw’n nythu wedi’u gwasgu’n dynn at ei gilydd ar glogwyni a siliau serth o amgylch yr arfordir. Efallai bod hwn yn swnio fel llecyn nythu rhyfedd, ond mae’n eu cadw’n ddiogel rhag ysglyfaethwyr. Wrth lwc, nid oes gan yr adar hyn ofn ychydig o ddeifio oddi ar glogwyni - yn dair wythnos oed, mae cywion gwylogod yn neidio oddi ar y clogwyn i’r môr!
Enw gwyddonol
Uria aalgePryd i'w gweld
Mawrth - GorffennafSpecies information
Ystadegau
Hyd: 38-45 cmLled yr adenydd: 67 cm
Pwysau: 690 g
Oes ar gyfartaledd: 23 mlynedd
Wedi’i gategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).