Y gog
Enw gwyddonol: Cuculus canorus
Mae’n cael ei hystyried fel arwydd cynnar o’r gwanwyn ac mae cân y gog, neu’r gwcw, yn swnio fel ei henw: ‘cwc-w’. Mae i’w chlywed mewn coetiroedd a glaswelltiroedd. Mae’r gog yn enwog am ddodwy ei hwyau yn nythod adar eraill.
Species information
Ystadegau
Hyd: 32-34 cmLled yr adenydd: 58 cm
Pwysau: 110-130 g
Oes ar gyfartaledd: 4 blynedd
Statws cadwraethol
Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Coch o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Rhywogaeth Flaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Wedi’i rhestru fel Agored i Niwed ar Restr Goch Fyd-eang IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad.