Slefren fôr casgen

Barrel jellyfish

Barrel jellyfish ©marknthomasimages.co.uk

Slefren fôr casgen

Enw gwyddonol: Rhizostoma pulmo
Dyma gewri byd y slefrod môr a’r creaduriaid anhygoel yma yw slefrod môr mwyaf y DU! Mae’r slefren yma’n gallu tyfu i faint clawr bin sbwriel – gan roi iddi ei henw cyffredin arall: slefren fôr clawr bin sbwriel!

Species information

Ystadegau

Cloch: Hyd at 90cm ar draws
Pwysau: Hyd at 35 kg

Statws cadwraethol

Cyffredin

Pryd i'w gweld

Mai - Hydref

Ynghylch

Mae’r slefrod môr mawr yma’n heigio mewn dyfroedd arfordirol cynnes ddiwedd y gwanwyn ac maen nhw’n cael eu golchi i’r lan ar ein traethau ni yn aml yn ystod misoedd Mai neu Fehefin, wrth eu cannoedd weithiau. Eu hoff bryd bwyd yw plancton, sydd ar gael mewn dyfroedd bas. Dyma beth sy’n achosi iddyn nhw ddod i’r lan yn aml, gan eu bod yn tanamcangyfrif eu maint. Mae ganddyn nhw wyth braich ffriliog, sy’n cynnwys eu tentaclau brathu bach sy’n amghylchynu cannoedd o gegau bach! Nid yw brath slefren fôr casgen yn niweidiol i bobl fel rheol, ond os gwelwch chi un ar y traeth, mae’n well peidio â chyffwrdd ynddi, oherwydd mae’n gallu brathu ar ôl marw.

Sut i'w hadnabod

Slefren fôr fawr, dryloyw gyda chloch enfawr siâp madarch ac wyth o dentaclau neu freichiau ffriliog oddi tanodd ond dim tentaclau ymylol (o amgylch y gloch), ond mae ganddi ymyl fioled o amgylch y gloch, sy’n cynnwys organau’r synhwyrau.

Dosbarthiad

Cyffredin oddi ar arfordir y de a’r gorllewin ym Mhrydain yn ystod misoedd yr haf.

Roeddech chi yn gwybod?

Slefrod môr casgen yw hoff fwyd y crwban môr cefn-lledr, crwban môr mwyaf y byd.

Sut y gall bobl helpu

Report your barrel jellyfish sightings to your local Wildlife Trust. The Wildlife Trusts are working with sea users, scientists, politicians and local people towards a vision of 'Living Seas', where marine wildlife thrives. You can do your bit for our marine wildlife by supporting your local Wildlife Trust.
If reporting jellyfish sightings to your local Wildlife Trust please provide date, location, number (and ideally a picture) information for the accurate creation of sighting records.