©Bruce Shortland

©D.A. Trebilco

Jim Higham
Neidr ddefaid
Er gwaethaf ei hymddangosiad, madfall heb goesau yw'r neidr ddefaid mewn gwirionedd, nid pryf genwair na neidr! Cadwch lygad amdani’n torheulo yn yr haul ar rostiroedd a glaswelltiroedd, neu yn yr ardd hyd yn oed, lle mae'n ffafrio tomenni compost.
Enw gwyddonol
Anguis fragilisPryd i'w gweld
Mawrth i HydrefSpecies information
Ystadegau
Hyd: 40-50cmPwysau: 20-100g
Oes ar gyfartaledd: up to 20 years
Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.
Cynefinoedd
Ynghylch
Nid yw'r neidr ddefaid yn bryf genwair nac yn neidr, madfall heb goesau ydi hi – mae’n bosib ei hadnabod ar sail ei galluoedd i fwrw ei chynffon a blincio gyda'i hamrannau.Gellir dod o hyd i nadroedd defaid ar rostir ac mewn glaswelltir twmpathog, ymylon coetir a llennyrch lle gallant ddod o hyd i infertebrata i'w bwyta a llecyn heulog i dorheulo. Maent i'w gweld yn aml mewn gerddi aeddfed a rhandiroedd, lle maent yn hoffi hela o amgylch y domen gompost. Fodd bynnag, os oes gennych chi gath, mae'n annhebygol y byddwch yn dod o hyd iddynt yn eich gardd gan fod cathod yn eu dal. Fel ymlusgiaid eraill, mae nadroedd defaid yn gaeafgysgu, o fis Hydref i fis Mawrth fel rheol.