Eich adnoddau am ddim
Mae'r dudalen hon yn cynnwys yr adnoddau sydd wedi'u creu yn arbennig rydyn ni wedi'u comisiynu gan athrawon, ar gyfer athrawon - cliciwch ar yr amser / pwnc perthnasol isod!
Afancod yng Nghymru
Oddi fewn i’r pecyn addysgol 'Afancod yng Nghymru' mae deg gweithgaredd sydd yn cefnogi y pedwar amcan o’r cwricwlwm. Maent yn cynnwys disgrifiadau o addysg, yn adlewyrchu yr ardaloedd o addysg oddi fewn y Cwricwlwm i Gymru ac yn egluro dilyniant camau 2 -3.
Gyda rhagair gan Iolo Williams (Adaregydd Cymreig, cyflwynydd teledu ac awdur, yn cael ei adnabod am ei raglenni natur ar y BBC ac S4C), mae’r pecyn darluniadol 40 tudalen yma yn llawn gweithgareddau addysgiadol gwych, gemau a sialensiau yn cynnwys ‘Gêm Fwrdd Afancod', 'Her Argae Afanc’ ac ‘Hanes a chwedlau Afancod’.
(Cyhoeddwyd Tachwedd 2023)
Cyfranwyr creadigol: Pryfed peillio a barddoniaeth
Ymlaen â chi! Mae'r gyfres hynod yma o adnoddau yn rhoi'r cyfle i chi loywi gweithgareddau blinedig gyda blitz tymhorol! Felly, yn ysbryd y gwanwyn, beth am fynd â’ch dysgwyr uchelgeisiol, galluog allan am ymarfer ar onglau a chyfesurynnau, neu efallai gael eich cyfranwyr creadigol i chwarae gyda barddoniaeth mewn ffordd gwbl newydd?
(Cyhoeddwyd Mai 2023)
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog: siarcod, morgathod a symiau i’w datrys
Ddarganfod pedwar syniad gwyllt i chi gynllunio Pasg tra gwahanol. Fe welwch gyfres o weithgareddau rhifedd; darllen a deall y gellir ei argraffu; a saith cam i fraslunio - digon i'ch disgyblion fwynhau wrth i'r gwanwyn agosáu!
(Cyhoeddwyd Chwefror 2023)
Dinasyddion Moesegol, Gwybodus: Ble aeth yr holl wenoliaid?
Lawrlwythwch yr adnoddau isod i ddarganfod pedair ffordd newydd o edrych ar fudo gan anifeiliaid. O dasg ymchwil i drafodaeth ar yr hinsawdd gyda ffocws ar lythrennedd, o ddarn o ysgrifennu llawn dychymyg i ddadl strwythuredig, fe ddowch chi o hyd i ddigon o bethau i wefreiddio a chyffroi eich disgyblion.
(Cyhoeddwyd Tachwedd 2022)
Cynhyrchwyd ein adnoddau ar gyfer ysgolion diolch i gefnogaeth chwaraewyr Loteri y Côd Post.