Coetir yr hydref

A close up of a branch of beech tree, with vibrant yellow and brown coloured leaves of autumn.

Common beech woodland in autumn © Mark Hamblin 2020Vision

Ble mae gweld coetir yr hydref

Coetir yr hydref

Mae’r hydref yn dymor o hela am goncyrs, cicio drwy bentyrrau o ddail sydd wedi syrthio i’r llawr, rhostio cnau castan a thân mawr braf yn y grât. Mae’r coetiroedd yn trawsnewid: mae’r dail a arferai fod yn wyrdd yn newid eu lliw i frown ac oren; gyda ffrwydradau o aeron coch a phorffor a mes a chnau brown sgleiniog yn demtasiwn i fronfreithod a gwiwerod. Mae’r gaeaf rownd y gornel felly mae pawb yn manteisio i’r eithaf ar y dyddiau cynnes olaf, a ble well i wneud hynny nag yn un o’n coedydd hyfryd ni?               

Mae coetiroedd gwyrdd, ir yr haf yn troi’n fwrlwm o felyn euraid, oren fflamgoch a choch dwfn y machlud wrth i’r dyddiau oeri.

Beth i gadw llygad amdano

Drwy’r canopi lliwgar efallai y gwelwch chi gipolwg ar aderyn ysglyfaethus yn codi i’r entrychion neu sgrech y coed swnllyd yn mynd yn ôl ac ymlaen yn casglu mes ar gyfer y gaeaf o’i blaen. Bydd heidiau prysur o’r titw’n syrthio drwy’r canopi, bob amser yn llwglyd, bob amser yn symud; mae blodau’r eiddew yn fwrlwm o bryfed hofran, gwenyn meirch, gwenyn mêl a mantell goch olaf y tymor. Mae coedydd yr hydref yn llefydd rhyfeddol: byddwch yn barod am antur. 

Chwilio am goetir yn eich ardal chi

Gyda choetiroedd i’w gweld ledled Gogledd Cymru, mae gormod o ddewis! Mae Nantporth ger Bangor neu Fryn Pydew ger Llandudno’n llecynnau hawdd eu cyrraedd, ond ein ffefryn ni yw Coed Crafnant sy’n hardd a gwyllt, ond dydi’r fforest law Gymreig yma ddim yn addas i’r gwangalon – paratowch am gerdded mewn ucheldir garw a chofiwch bob amser y bydd yn werth yr ymdrech!