Sut daeth celf plant yn focs tylluanod
Fe ddechreuodd y siwrnai ar ein stondinau Corsydd Calon Môn ni yn Sioe Môn 2024 a Gŵyl Fwyd Llangefni ym mis Hydref. Daeth teuluoedd draw i ddysgu am y prosiect, a chymerodd plant a phobl ifanc ran mewn gweithgaredd celf. Gyda phinnau ffelt, pensiliau lliw a chardiau post, fe aethon nhw ati i dynnu llun yr hyn yr oedd corsydd Môn yn ei olygu iddyn nhw. O dylluanod gwynion mawreddog a gweision y neidr i gyrs yn siglo a blodau, fe ddaeth eu dychymyg nhw â’r corsydd yn fyw. Roedd rhai plant hyd yn oed wedi dychmygu sut byddai tylluan yn hoffi i’w bocs nythu gael ei addurno - gan freuddwydio am ddyluniadau clyd, artistig a fyddai'n gwneud i unrhyw aderyn deimlo'n gartrefol!