Tylluanod Nid Bwganod yng Nghors Goch

Tylluanod Nid Bwganod yng Nghors Goch

Yn ddiweddar fe wnaethon ni gynnal digwyddiad ‘Tylluanod Nid Bwganod’ yn ein Gwarchodfa Natur ni yng Nghors Goch, gan ddod â theuluoedd at ei gilydd am ddiwrnod llawn hwyl, dysgu, ac ambell syrpreis arswydus! Roedd y digwyddiad yma, a gynhaliwyd yn ystod gwyliau hanner tymor, yn rhan o brosiect Corsydd Calon Môn, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Esmée Fairbairn. Nod Corsydd Calon Môn yw gwarchod gwlybdiroedd gwerthfawr Ynys Môn, ac roedd Tylluanod Nid Bwganod yn cynnig cyfle perffaith i bawb archwilio’r llefydd gwyllt arbennig yma.

Dechrau arswydus

Fe gyrhaeddodd ein tîm ni yn gynnar i gael popeth yn barod ym mwthyn Bryn Goleu, gan osod coelcerth clyd y tu allan a thân cynnes yn pefrio y tu mewn rhag ofn i'r tywydd droi. Wrth i ni addurno'r bwthyn gyda phwmpenni a gweld y penglog llwynog preswyl ar y sil ffenest, roedd pethau'n edrych yn arswydus yn barod. Fe ddaeth ymwelydd bach annisgwyl – madfall ddŵr balfog – i mewn i’r bwthyn, gan ein hatgoffa ni bod Cors Goch yn gyforiog o fywyd gwyllt, hyd yn oed pan dydych chi ddim yn ei ddisgwyl!

A still life arrangement on a rustic windowsill featuring a red-and-yellow mushroom, a fox skull, and a green-and-orange striped gourd. The fox skull is detailed with visible teeth and sits prominently beside the other natural objects. Through the window, a blurred view of an outdoor garden and another pumpkin can be seen, enhancing the autumnal, nature-inspired aesthetic.

© NWWT Megan Jones

Archwilio Cors Goch gyda'n gilydd

Am 11 y bore, ymgasglodd ein holl westeion ni o amgylch y goelcerth i gael croeso cynnes gan ein Swyddog Addysg a Chymuned, Anna Williams, a roddodd grynodeb o’r diwrnod. Wedyn, fe aethon ni am dro drwy Gors Goch, lle chwaraeodd y plant gêm chwilio, gan chwilio am drysorau cudd a dysgu am blanhigion rhyfeddol ar yr un pryd. Fe fwynhaodd y plant yn arbennig lwybr pren y warchodfa, gan sblasho ar ei hyd yn eu hesgidiau glaw, gan feddwl tybed pa mor ddwfn y gallai pob cam eu cymryd. Cawsant eu cyflwyno i blanhigion sy'n bwyta pryfed fel chwysigenddail, gwlithlys a thafod-y-gors, roedd cyfle iddyn nhw arogli gwyrddling, a hefyd dysgu am ddyfrgwn sy'n gwneud eu cartref yng Nghors Goch. Ar y ffordd yn ôl, bu pawb yn casglu dail, brigau, codennau hadau a deunyddiau naturiol eraill ar gyfer gweithgaredd celf arbennig ar thema tylluanod.

A blurred image of a child mid-jump, dressed in a navy sweater, colorful leggings, and bright yellow rain boots, playing in an outdoor setting. The background features dense greenery with wild plants, shrubs, and a tree with autumn-colored leaves. The scene captures the energy and joy of outdoor play in a natural, untamed environment.

© NWWT Neil Dunsire

Creu ein celf tylluanod ein hunain

Yn ôl ym Mryn Goleu, fe ddefnyddiodd y plant y deunyddiau oedden nhw wedi’u casglu i addurno amlinelliad tylluan enfawr wedi ei wneud o raff ar y ddaear. Fe gafodd pob rhan o'r dylluan eu llenwi gyda dail, madarch, blodau, a cherrig hyd yn oed, gyda'r plant yn ychwanegu eu cyffyrddiadau creadigol eu hunain. Un o'r uchafbwyntiau? Darganfod pennau hadau cyngaf gludiog a dysgu mai nhw oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer Velcro! Cyn bo hir, roedd pawb yn taflu’r hadau cyngaf ar siwmperi ei gilydd ac yn creu peli enfawr, a arweiniodd at ddigon o chwerthin.

A young girl with blonde hair smiles while wearing a handmade nature crown adorned with flowers, leaves, and seeds. She is dressed warmly in a multicolored striped puffer jacket and a leopard-print scarf. Behind her is a rustic white stone building with a slate roof and small, old windows, surrounded by bare branches and greenery, suggesting an autumn or early winter setting.

© NWWT Neil Dunsire

Cwisiau tylluanod ac ystlumod

Gyda phawb mewn hwyliau da o hyd, fe wnaethon ni symud i fyny i'r cae ar gyfer cwisiau cyflym am dylluanod ac ystlumod. Fe rannodd Joel a Ginny, myfyrwyr ar leoliad yn ein gwarchodfeydd natur ni, ffeithiau diddorol am dylluanod ac ystlumod tra oedd y plant yn rhuthro rhwng arwyddion “Gwir” a “Gau”, gan geisio dyfalu'r ateb cywir. Oeddech chi'n gwybod bod ystlum lleiaf y byd yn pwyso llai na cheiniog? Roedd pawb yn chwerthin, rhedeg a chasglu ychydig o ffeithiau newydd am ein ffrindiau hedfan ni fel rhan o’r cwisiau.

 Two young people wearing colorful nature-themed headbands are holding signs for a "True or False" activity outdoors. The person on the left holds a sign reading "Gau / False" with a cartoon bat illustration, and the person on the right holds a sign reading "Gwir / True" with a cartoon owl. They are standing in a grassy field with bushes and trees in the background under an overcast sky, suggesting a nature-themed educational or recreational event.

© NWWT Neil Dunsire

Diweddglo clyd o gylch y tân

Ar ôl yr holl gemau a’r rhedeg o gwmpas, roedd yn amser tawelu. Fe ymgasglodd pawb o amgylch y goelcerth i rostio malws melys a sipian ar siocled poeth, gan rannu straeon am y diwrnod. Roedd rhai o’r plant chwilfrydig wedi mynd i’r afael â pheled tylluan hyd yn oed, gan ddarganfod esgyrn bach a dysgu am ddeiet tylluan gyda gwirfoddolwr, sef Ashleigh. Roedd y foment dawel yma’n gyfle i bawb sgwrsio, adlewyrchu ar yr hyn roedden nhw wedi ei weld, a gwerthfawrogi harddwch Cors Goch.

Roedden ni hefyd yn falch iawn o weithio gyda Medrwn Môn, a helpodd ni i hyrwyddo’r prosiect a’r digwyddiad yma. Roedd yn hyfryd eu cael i ymuno â ni ar y diwrnod, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio mwy gyda nhw yn y dyfodol.

Gobeithio bod pawb ddaeth draw wedi teimlo mwy o gysylltiad â’r llefydd gwyllt o’u cwmpas nhw - ac efallai hyd yn oed wedi cael eu hysbrydoli i ddod yn ôl ar gyfer anturiaethau’r dyfodol! Diolch i bawb ymunodd â ni ar gyfer Tylluanod Nid Bwganod.

A young girl wearing glasses and a nature-inspired crown made of leaves and feathers sits by a small campfire outdoors. She is dressed warmly in a black coat and patterned leggings, with a calm expression. In the background, there are stacked firewood, backpacks, and a few other people engaged in activities, some also wearing nature crowns. The setting appears to be a rustic, outdoor environment with scattered autumn leaves and natural elements.

© NWWT Neil Dunsire

A short film showing some of the activities at Owl'loween held at Cors Goch 31/10/24 as part of Corsydd Calon Môn - a collaborative project that aims to secure the future of the Anglesey Fens and celebrate their rich history.