Rydyn ni’n claddu capsiwl amser sy’n llawn addewidion, gobeithion a breuddwydion amgylcheddol ar gyfer bywyd gwyllt a llefydd gwyllt Gogledd Cymru. Yn llawn syniadau i newid y blaned, efallai ei fod yn fwy ar y tu mewn nag y mae'n edrych ar y tu allan! Ymlaen yn gyflym at ein pen-blwydd ni yn 75 oed, pryd byddwn ni’n codi’r capsiwl gobaith yma ac yn adlewyrchu ar ba mor bell rydyn ni wedi dod gyda’n gilydd.
Os na allwch chi fod yno yn bersonol yn ein digwyddiad Arglwyddi Amser Yfory, fe allwch chi fod yn rhan o hanes yr un fath. Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn argraffu eich meddyliau ac yn eu rhoi yn y capsiwl amser i chi!