
©Mark Roberts NWWT

©Amy Lewis

Matthew Roberts
Darganfod natur yn Big Pool Wood (6 sesiwn ar gael)
Gwarchodfa Natur Big Pool Wood,
GronantSir y Fflint, CH8 9JN
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Bydd ein Swyddog Ymgysylltu Gwyddonol, Helen, yn arwain cyfres o 6 sesiwn lle byddwn yn archwilio byd natur yn y warchodfa wych yma. Bydd pob sesiwn yn gymysgedd o weithgareddau fel chwilio am adar, planhigion, coed ac infertebrata dŵr croyw a’r tir a’u hadnabod, cynnal gwyddoniaeth y dinesydd, teithiau tywys, arolygon amgylcheddol, a chelf a chrefft byd natur.
Mae'r sesiynau yma wedi cael eu cynllunio i annog gwerthfawrogiad o fyd natur a chysylltiad ag o, ar gyfer iechyd meddwl cadarnhaol ac i hyrwyddo gofal dyfnach o’r amgylchedd. Dewiswch y sesiynau yr hoffech eu mynychu wrth archebu. 18+ oed yn unig.
Does dim angen unrhyw wybodaeth neu brofiad blaenorol i gymryd rhan. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau, cysylltwch â Helen yn uniongyrchol.
Sesiwn 1; Dydd Gwener, 25 Ebrill, 11:00
Sesiwn 2; Dydd Gwener, 2 Mai, 11:00
Sesiwn 3; Dydd Gwener, 16 Mai, 11:00
Sesiwn 4; Dydd Gwener, 30 Mai, 11:00
Sesiwn 5; Dydd Gwener, 6 Mehefin, 11:00
Sesiwn 6; Dydd Gwener 20 Mehefin, 11:00