
Big Pool Wood Nature Reserve © Roger Riley

© Mark Roberts NWWT

©Mark Roberts NWWT

© MarkRoberts NWWT

Reed warbler in fens © David Tipling 2020 Vision

Reed warbler © Amy Lewis

Water rail © Margaret Holland
Gwarchodfa Natur Big Pool Wood
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Amser gwanwyn ar gyfer blodau gwanwyn a chân adarAm dan y warchodfa
Adar, llwybrau pren a chlychlys
Mae llwybr pren a chuddfan adar Big Pool Wood yn galluogi i chi fod yn agos iawn at y bywyd gwyllt yn y warchodfa natur hyfryd yma o gorslwyn a choetir sy’n llawn adar a phlanhigion. Mae ymylon llennyrch y coetir yn troi’n las llachar yn y gwanwyn wrth i glychau’r gog flodeuo ac mae’r cyrs yn adleisio gyda synau teloriaid y gors, sy’n cyrraedd yn y gwanwyn o Affrica i nythu yn eu canol. Yn yr haf, mae clychau glas o fath gwahanol i’w gweld yma – mae clychlys cawraidd sy’n brin yn lleol yn gwneud eu cartref yma yng nghanol blodau gwyllt mwy nodweddiadol y coetir – ac mae hwyaid gwyllt, cwtieir ac ieir dŵr i’w gweld yma ac acw y tu ôl i’r cyrs wrth i’r haul dywynnu arnynt.
Mae’r safle’n rhan o Ardal Gwarchodaeth Arbennig Aber Afon Dyfrdwy – rhanbarth dan warchodaeth sy’n gartref i fwy na 120,000 o adar dŵr a rhydio yn ystod y gaeaf. Mae Big Pool Wood yn darparu cysgod a lloches i rai o’r adar gwlybdir hyn ac yn rhan o goridor bywyd gwyllt sy’n ymestyn ar hyd yr arfordir bob cam i Ynys Môn; sy’n hynod bwysig i adar mudol o bob math.
Dŵr, dŵr ym mhob man!
Mae’r rheolaeth ar Big Pool Wood yn canolbwyntio ar gadw cydbwysedd rhwng yr holl agweddau gwahanol ar y safle - gan gynnwys cynnal lefelau dŵr priodol. Mae coed yn cael eu hatal rhag ymledu i’r cyrs, sydd, yn eu tro, yn cael eu teneuo i gynnal sianelau o ddŵr agored. Mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn astudio hydroleg y safle i ganfod ffyrdd o godi lefelau’r dŵr daear, i fod o fudd i’r coetir gwerni a’r corslwyn yn y tymor hir.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gwerni’n cynnwys bacteria cywiro nitrogen yn nodylau eu gwreiddiau (am hynny, mae’r gwerni’n rhoi i’r bacteria y siwgr maent yn ei wneud fel rhan o ffotosynthesis). O ganlyniad, mae’r gwerni’n gwella ffrwythlondeb y pridd ble bynnag maent yn tyfu.
Cyfarwyddiadau
Mae Gwarchodfa Natur Big Pool Wood ryw 2.5 milltir i’r dwyrain o Brestatyn. O’r A548, dilynwch yr arwyddion brown am Ysgol Farchogaeth Bridlewood – mae’r drofa gyferbyn â thafarn Bells of St Mary. Chwiliwch am le diogel i barcio ar ochr y ffordd ger yr ysgol farchogaeth (SJ 102 838) neu gymryd y tro cyntaf ar y chwith i ddefnyddio’r maes parcio.
Ymunwch fel aelod o dim ond £3 y mis a'n helpu ni i amddiffyn mwy o leoedd fel hyn
Rhywogaethau
Cynefin
Cysylltwch â ni
Gwnewch Rodd
Support us
Join today!