
Osprey © Gary Jones Wildlife Photography
Diwrnod Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Unigryw gyda Gary Jones
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dewch i dreulio'r diwrnod yn Llyn Brenig gyda Gary Jones, ffotograffydd bywyd gwyllt proffesiynol. Dim ond pedwar gwestai fydd yn cael y cyfle unigryw i ymuno ag o wrth iddo roi cyngor ar dynnu’r lluniau gorau posibl, gan helpu gyda chyfansoddiad, techneg a gosodiadau.
Mae gan Lyn Brenig amrywiaeth o adar y gallwch chi ymarfer eich sgiliau adara a ffotograffiaeth arnynt, gan gynnwys y gweilch y pysgod sy’n byw yno. Meddai Gary: “Er fy mod yn hoffi tynnu lluniau pob math o fywyd gwyllt mae well gen i dynnu lluniau adar, yn enwedig adar ysglyfaethus, a’n hoff adar yw Gweilch y pysgod.”
Bydd Gary yn rhoi cyflwyniad yn y ganolfan ymwelwyr cyn mynd allan gyda’r grŵp i edrych ar yr amrywiaeth o adar sydd yn y Brenig a thynnu lluniau ohonyn nhw, gan gynnwys sesiwn yng nghuddfan y gweilch y pysgod sydd ond 150m oddi wrth y nyth gweilch y pysgod. Mae'r diwrnod yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffwyr o bob lefel.
Gyda grŵp bach rydych chi’n siŵr o gael arweiniad un i un. Bydd Gary yn mynd yr ail filltir i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael yr holl luniau a phrofiadau rydych chi'n gobeithio amdanyn nhw.
Mwy o wybodaeth am Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Gary Jones yma.