Ynys Môn Gudd: Blodau glaswelltir calchfaen Penmon

A view across the reserve of Mariandyrys, showing vibrant green fields and trees with a small white house, and a white windmill sticking up out of the landscape, both shining in the bright sunlight. Behind the fields is a mid blue sea scattered with little white sailing boats. On the right hand side Puffin Island and the Great Orme take up most of the water, and are slightly hazy through so much distance and bright sunshine.

Mariandyrys Nature Reserve

Ynys Môn Gudd: Blodau glaswelltir calchfaen Penmon

Lleoliad:
Dyma gyfle i archwilio’r ardal galchfaen unigryw yma ar Ynys Môn gyda chasgliad arbennig o flodau gwyllt i’w darganfod.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Gyrrwch i Langoed ar y B5109. Ar ôl mynd drwy'r prif bentref mae afon gyda phont garreg a maes parcio. Trowch i'r chwith yma, gadael y pentref a gyrru i fyny'r allt i Lan yr Afon. Cymerwch y troad cyntaf i’r chwith ar dop yr allt i gyrraedd y maes parcio.

Dyddiad

Time
11:00am - 3:00pm
A static map of Ynys Môn Gudd: Blodau glaswelltir calchfaen Penmon

Ynglŷn â'r digwyddiad

Dewch draw am daith dywys o amgylch ein Gwarchodfa Natur ni ym Mariandyrys a threulio rhywfaint o amser yn archwilio’r gwahanol flodau gwyllt sydd i’w gweld yma. Cawn fwynhau golygfeydd draw am Benmon, Ynys Seiriol a'r Gogarth. 

Wedyn byddwn yn gadael gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac yn archwilio’r Fedw Fawr gerllaw ar yr arfordir, gan grwydro ar hyd lonydd tawel a llwybrau troed cyhoeddus. 

Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 11:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar. Byddwn yn cyfarfod yn y maes parcio gerllaw cyn cerdded i fyny'r ffordd i Warchodfa Natur Mariandyrys. 

Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg os dymunwch.

Bwcio

Pris / rhodd

£3

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Yn addas ar gyfer

Oedolion, Arbenigwyr, Dechreuwyr

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Symudedd

Bydd rhywfaint o dir garw a chreigiog ar y llwybr a bydd y daith gerdded rhwng tair a phum milltir o hyd, yn dibynnu ar y tywydd a gallu’r grŵp. 

Gall y llwybr fod yn anaddas i rai gan fod y llwybrau'n greigiog ac weithiau'n serth. 

image/svg+xml

Mynediad i gadeiriau olwyn

No
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Dewch â chinio gyda chi am stop picnic a dewch wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 11:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

What3Words: thin.glow.drizzly

Cysylltwch â ni