
Bryn Ifan Bioblitz June 2024 © Dilys Thompson Photography
Bioblitz a hwyl i'r teulu
Gwarchodfa Natur Graig Wyllt,
Graigfechan, Sir Ddinbych, LL15 2EUManylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Bydd grŵp cadwraeth natur lleol, ‘Llanfair-Fyw’, a’ch Canolfan Cofnodion Lleol (LRC), sef ‘Cofnod’, yn ymuno â ni. Bydd gennym ni lawer o weithgareddau difyr i bob oed gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod y dydd. Bydd hyn yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad arbenigwyr (mae’r amserlen yn cael ei harddangos yn y maes parcio).
Bydd rhai gweithgareddau’n cael eu cynnal yn y maes parcio lle bydd y ‘ganolfan gofnodi’ wedi cael ei lleoli.
Os ydych chi’n bwriadu mentro i fyny i’r warchodfa, bydd y llwybrau troed wedi’u marcio’n glir fel eich bod chi’n gallu mynd a dod fel mynnoch chi drwy gydol y dydd. (Sylwch y bydd rhaid i chi groesi ffordd 20mya o’r maes parcio i gael mynediad i’r daith gerdded i fyny i’r warchodfa). Mae’r warchodfa’n serth ac mae’r llwybrau troed yn gallu mynd yn eithaf llithrig yn y glaw, felly rydyn ni wir yn eich annog chi i wisgo esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd.
Mae y trefnydd yn siarad Cymraeg, felly defnyddiwch Gymraeg neu Saesneg yn ystod y daith.