
Spotted rockrose © Caroline Bateson NWWT
Darganfod blodyn sirol prin Ynys Môn
Gwarchodfa Natur Porth Diana,
Ffordd Ravenspoint, Bae Trearddur, LL65 2AQ Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Yn berl deheuol o gynefin rhostir Ynys Gybi, dim ond am ychydig wythnosau o’r flwyddyn y mae posib gweld y cor-rosyn rhuddfannog. Oni bai eich bod chi’n gwybod ble i edrych mae'n hawdd ei fethu!
Byddwn yn cychwyn ar daith hamddenol ar hyd y llwybr arfordirol sy'n edrych dros Fae Trearddur, lle gallwn hefyd weld môr-wenoliaid yn plymio.
Bydd cyfle i ddysgu am gynefinoedd eraill y warchodfa natur a chymryd rhan mewn ychydig o archwilio arfordirol, gan nodi'r hyn rydyn ni’n ei weld fel rhan o'r prosiect Natur yn Cyfrif.
Bydd y daith gerdded yn cychwyn yn brydlon am 10:00, felly cofiwch gyrraedd 15 munud yn gynnar. Siaradir y trefnydd Gymraeg llafar felly gallwch ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg os dymunwch.
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol. Mae prosiect Natur yn Cyfrif yn cael ei gyllido gan y Gronfa Dreftadaeth a Llywodraeth Cymru.