
Porth Diana Nature Reserve_Lin Cummins

Stonechat © Adam Jones

Yellow flag iris © Vaughn Matthews
Heath spotted orchid - Philip Precey
Gwarchodfa Natur Porth Diana
Lleoliad
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Canol yr haf ar gyfer creigiog brychAm dan y warchodfa
Blodau gwyllt a golygfeydd o’r môr
Dyma ychwanegiad gwych at ddiwrnod ar lan y môr. Efallai nad yw’r warchodfa fechan hon yn edrych yn drawiadol o bell, ond o edrych yn fanylach, bydd y casgliad o flodau a phlanhigion yn eich cadw chi’n brysur. Mae’r gymysgedd o laswelltir a rhostir yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau, rhai sy’n anodd eu canfod yn unrhyw le arall. Yn ystod yr haf, mae’r rhostir yn frith o binc golau tegeirianau brych y rhos a’r glaswelltir yn fôr o’r ellesg felen a phinc cryf blodau’r brain mewn ardaloedd gwlypach. Mae’r allgreigiau’n gartref i lawer o rywogaethau o gennau lliwgar drwy gydol y flwyddyn. Ychwanegwch rywfaint o liw at eich trip i lan y môr a gwneud amser am ymweliad!
Merlod yr arfordir
Er mwyn cadw’r glaswelltir yn agored a’r rhostir yn amrywiol ac yn gynhyrchiol, mae merlod a gwartheg yn pori’r safle ac mae’r llwyni eithin newydd yn cael eu tynnu. Pe na bai hyn yn digwydd byddai’r safle, ymhen amser, yn cael ei orchuddio gan eithin a byddai nifer y gwahanol gynefinoedd ar y safle’n lleihau. Yn ei dro, byddai hynny’n golygu bod llai o rywogaethau’n gallu ffynnu yma. Mae cynnal tirwedd agored yn hynod bwysig i rai o’r planhigion llai sy’n blodeuo – gan gynnwys y cor-rosyn rhuddfannog.
Cyfarwyddiadau
Ewch tua’r gogledd orllewin am Fae Treaddur ar y B4545 a throi i’r chwith ar Ffordd Ravenspoint ychydig cyn y bae. Parciwch lle mae hynny’n cael ei ganiatáu a cherdded i fyny Lôn Porth Diana, gan ddal i’r chwith a mynd i mewn i’r warchodfa gan ddefnyddio’r llwybr troed cyhoeddus (SH 256 781).