
Coed Crafnant rainforest © Ben Porter
Taith gerdded rhedyn prin
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Aberduna,
Gwernymynydd
, Maeshafn, Sir Ddinbych, CH7 5LD
Gwarchodfa Natur Aberduna,
Gwernymynydd, Maeshafn, Sir Ddinbych, CH7 5LD
Cyfle i fwynhau taith dywys o amgylch Gwarchodfa Natur Aberduna i chwilio am redyn prin ar hyd y ffordd (os ydyn ni’n lwcus!)
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
I’r rhai sy’n gwybod beth i chwilio amdano, mae rhedyn yn grŵp anhygoel ac amrywiol sy’n dod â’n hamgylcheddau ni’n fyw gyda’u ffrondau gwyrdd lliwgar.
Mae’n amser perffaith o’r flwyddyn i obeithio gweld y lloer-redynen brin iawn sy’n tyfu yn Aberduna. Byddwn hefyd yn cadw llygad am löynnod byw a phryfed eraill, gan gynnwys y fritheg berlog fach, yr argws brown a, gobeithio, gweision y neidr o gwmpas y pyllau.
Trefnwyd y digwyddiad hyn gan Gangen Wirfoddol Wrecsam o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.