
Jules, Cors Goch Foraging © Caroline Bateson NWWT.
Taith chwilota am fwyd a bywyd gwyllt gyda Jules Cooper
Gwarchodfa Natur Cors Goch,
Llanbedrgoch , Ynys Môn, LL78 8JZManylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Mae Jules Cooper yn chwilotwr lleol arbenigol sy'n gwneud bwydydd gwyllt blasus. Bydd hi'n dweud popeth wrthym ni am rinweddau a llên gwerin pob planhigyn rydyn ni'n chwilota amdanyn nhw wrth i ni gerdded o amgylch y warchodfa natur wlybdir hardd yma.
Bydd staff Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn adnabod rhai o'r planhigion, yr adar a’r trychfilod y byddwn ni’n dod o hyd iddyn nhw. Byddwn yn gwneud rhestr o rywogaethau o bopeth fyddwn ni’n eu gweld fel rhan o'n prosiect Natur yn Cyfrif.
Mae'r digwyddiad yma’n addas ar gyfer arbenigwyr a dechreuwyr.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.
Beth am ddod â chanllaw chwilota gyda chi o'n siop ni ar-lein? Mae pob pryniant yn cefnogi ein gwaith ni i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru!
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n prosiect Natur yn Cyfrif ni. Yn ystod ein digwyddiadau, rydyn ni’n cofnodi'r rhywogaethau rydyn ni’n eu darganfod fel rhan o brosiect gwyddoniaeth y dinesydd i'n helpu ni i reoli ein gwarchodfeydd natur a'n cynefinoedd lleol.