
Allium triquetrum © Lisa Toth
Arddangosfa – Tu Hwnt i’r Ffin
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Camwch yn ôl mewn amser a darganfod sut daethpwyd â phlanhigion gardd i’r DU o bob rhan o’r byd, a sut gall gadael iddynt ddianc o erddi fod yn niweidiol i fyd natur hyd heddiw. Cyfle i brofi a dysgu drwy arddangosfa aml-gyfrwng ddifyr, gan gynnwys arteffactau hanesyddol a gweithgareddau hwyliog i'r teulu cyfan.
Cewch brofi a dysgu drwy arddangosfa aml-gyfrwng ddifyr sy’n cynnwys arteffactau hanesyddol a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan. Darganfyddwch sut mae’r artist lleol, Manon Awst, wedi defnyddio cerflunwaith i ddehongli’r ffiniau mandyllog rhwng gerddi a’n cynefinoedd ehangach, gwylltach ni. Bydd yr arddangosfa’n dangos y camau hawdd y gall unrhyw arddwr eu cymryd i helpu i warchod ac adfer byd natur yng Ngogledd Cymru drwy atal planhigion gardd rhag dianc. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cerflun parhaol gan Manon Awst yng Ngwaith Powdwr, Gwarchodfa Natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Mae hyn yn rhan o’n prosiect Dianc o Erddi yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n cael ei gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae'r arddangosfa yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg.
Bwcio
Pris / rhodd
Anogir rhoddionGwybodaeth archebu ychwanegol
Dim angen archebu.Mae amseroedd agor Storiel i’w gweld yma: https://www.storiel.cymru/your-visit/