Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam - Busnesau

Wrexham Industrial Estate main banner

© NWWT Jonathan Hulson

Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Llesol i fusnes

Bioamrywiaeth yn golygu busnes!

Mae bioamrywiaeth yn gallu bod yn dda iawn, yn dda iawn yn wir, i fusnes! Mae busnesau sy'n gweithredu mewn amgylchedd gwyrdd a dymunol yn rhoi argraff gadarnhaol i bartneriaid masnachol, cwsmeriaid a chleientiaid. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod ymgysylltu â byd natur yn llesol i bobl, gan helpu i wella eu hiechyd a’u lles, sy’n gallu rhoi hwb i foddhad swydd a morâl staff. Gall amgylchedd mwy naturiol arwain at drosiant staff is, llai o absenoldeb a mwy o gynhyrchiant.

Y manteision i chi

Rydym yn gweithio i annog busnesau i wneud mwy o le i fywyd gwyllt o fewn eu daliadau tir. Fel yr amlinellwyd uchod, mae llawer o fanteision i’w cael, gan gynnwys:

Manteision o ran cost
Llai o gostau rheoli tir
Mwy o werth brand

Y manteision i staff
Lles a chynhyrchiant
Denu talent

Y manteision i ddelwedd a phroffil
Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR) a rhinweddau cynaliadwyedd
Proffil cadarnhaol i gleientiaid, cwsmeriaid a buddsoddwyr

Sut gallwn ni helpu

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn arbenigwyr ar ddarparu atebion i helpu i wella bioamrywiaeth er budd lles cymdeithasol ac ymgysylltu. Rydyn ni’n gallu helpu busnesau ar y stad ddiwydiannol i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer bywyd gwyllt y mae eich daliad tir yn eu cynnig.

Gallwn reoli eich daliad tir ar gyfer bywyd gwyllt a phobl hyd yn oed drwy ein his-gwmni, Enfys Ecology.

Cysylltwch â ni am sgwrs heddiw

Astudiaethau achos

Mae’r wybodaeth ganlynol yn hyrwyddo detholiad o’r busnesau sydd wedi ymuno â’r prosiect ac yn enghreifftio’r math o waith y gallwn ni ei wneud ar eich tir chi:

Clwb Golff Clays

Mae Clwb Golff Clays yn dal ardal fawr o dir ar gyrion y stad sy’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt diolch i reolwyr y cwrs golff. Maen nhw wedi gweithio gyda ni er mwyn gwella hyn ymhellach drwy osod bocs i dylluanod gwynion yn ei le a hefyd plannu rhimyn o goetir ar hyd ymyl eu tir, i weithredu fel ffin naturiol a choridor.

Clay Golf Club, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

Commercial and Industrial Gauges

Mae Commercial and Industrial Gauges, y cwmni gweithgynhyrchu a chyflenwi oddi ar Abenbury Way, yn gweithio gyda ni i wella eu tir er mwyn i gwsmeriaid sy’n ymweld allu ei fwynhau, a bydd byd natur yn elwa fel rhan o’r broses. Rydyn ni wedi adfer dôl draddodiadol o flodau gwyllt sy’n llawn llygad-llo mawr trawiadol yn ystod yr haf. Mae man eistedd newydd wedi cael ei gynllunio a’i greu allan o galchfaen a phlastig wedi’i ailgylchu a fydd yn ardal neis ar gyfer bwyta cinio yn yr haul a hefyd yn llesol i löynnod byw.

CIG LTD, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

PIcnic Area and wildflower meadow at CIG LTD, Wrexham Industrial Estate

PIcnic Area and wildflower meadow at CIG LTD, Wrexham Industrial Estate

Ecodek

Mae Ecodek, cynhyrchydd decin plastig wedi’i ailgylchu sy’n amgylcheddol gyfeillgar, wedi cytuno i hadu ymyl o flodau gwyllt yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella ymddangosiad y safle i weithwyr a chwsmeriaid fel ei gilydd. Mae’r darnau yma o flodau gwyllt amlwg yn ffynhonnell wych o neithdar i bryfed - byddai’r glaswellt yn cael ei dorri fel arfer heb lawer o flodau gwyllt. Mae ymylon o flodau gwyllt yn amlwg iawn ar y stad a dyma’r gwaith mwyaf poblogaidd rydyn ni’n ei wneud yma.

Ecodek

© NWWT

Hauck Fun for Kids (Aelod corfforaethol)

Mae gan Hauck, cynhyrchydd seddau ceir a chadeiriau gwthio i blant, safle pwysig ac rydyn ni’n gweithio ar y lleoliad yma i helpu glöyn byw y gwibiwr brith. Drwy gydweithredu, rydyn ni wedi gwella’r ardal ar gyfer y glöyn byw a hefyd gwarchod tegeirianau’r wenynen, ac fe fyddwn ni hefyd yn gosod bocsys yn eu lle i wenoliaid duon er mwyn helpu i atal dirywiad y rhywogaeth yma o aderyn. Yr ymyl newydd o flodau gwyllt yw’r datblygiad diweddaraf a fydd yn dod â lliw i’r ardal a phlanhigion peillio i bryfed.

Hauck Fun for Kids LTD

© Google

Hoya Lens UK

Mae Hoya, sy’n darparu profiadau teilwredig ar gyfer Gweithwyr Gofal Llygaid Proffesiynol a phobl sy’n gwisgo sbectol, wedi gweithio gyda ni i greu gwarchodfa natur ar eu tir, sy’n hygyrch i bobl drwy ychwanegu llwybrau i ardal wyllt a chreu cynefinoedd newydd ar hen gae pêl droed. Mae’r cynlluniau sydd ar droed yn yr ardal newydd yn cynnwys perllan, ardaloedd picnic, coetir a dôl o flodau gwyllt, a fydd yn llawn bywyd gwyllt a lliw i bobl ymlacio ynddynt.                   

Hoya Lens UK, Wrexham Industrial Estate

© NWWT

Proserve

Mae Proserve, sy’n cyflenwi gwasanaethau amlddisgyblaethol a logisteg i gwmnïau, wedi gweithio gyda ni i reoli safle lliniaru ar gyfer byd natur yn dilyn estyniad i’w huned. Gyda’n gilydd rydyn ni’n gwella dôl o flodau gwyllt ac wedi plannu coed ar hyd y ffin, sy’n helpu i gysylltu coetir hynafol Erlas Black Wood ag ardaloedd eraill ar y stad. Gall y datblygiadau weithio ochr yn ochr â chadwraeth natur wrth i ni gydweithredu i sicrhau budd i bawb.

Proserve, Wrexham Industrial Estate

© Google

Rowan Foods (Aelod corfforaethol)

Mae Rowan Foods, cynhyrchydd mawr ar fwyd wedi’i baratoi gyda label y manwerthwr, wedi cydweithio gyda ni i wneud gwelliannau amrywiol er budd y gweithwyr a bywyd gwyllt. Gyda’n gilydd rydyn ni wedi creu ardal bicnic, gosod bocs tylluanod gwynion yn ei le, plannu cennin Pedr ac, yn gyffrous iawn, wrth symud ymlaen byddwn yn parhau i reoli eu tir yn y dyfodol. Mae’r ardal yma’n gartref i blanhigion prin, gan gynnwys tegeirianau’r wenynen, a fydd yn cael eu hannog gyda rheolaeth ofalus.

Rowan Foods orchard

Village Bakery

Mae Village Bakery, cynhyrchydd lleol enwog ar fara a chrwst, wrth galon y stad ddiwydiannol ac mae’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Natur i helpu i achub bywyd gwyllt fel rhan o nifer o brosiectau. Rydyn ni’n rheoli Erlas Black Wood: ei hagor ar gyfer y cyhoedd a grwpiau ysgolion, i ymweld a rhyfeddu at y coed hynafol a’r planhigion coetir mawreddog. Rydyn ni hefyd yn cydweithio i reoli ardal lliniaru datblygiadau a chreu ymylon trawiadol o flodau gwyllt o flaen y ffatri bob blwyddyn.

Village Bakery wildflower meadow
The bottom half of the picture is taken up with a carpet of wood anemones, small white flowers with pointed leaves resembling stars, with lush green leaves covering the ground. The top half features the woodland in the background, out of focus, with flares of light as it passes through the leaves on the trees giving them an almost glowing appearance.

Erlas Black Wood - Wrexham Industrial Estate (c) NWWT

Clwb Golff Wrecsam

Mae Clwb Golff Wrecsam, ger y fynedfa i’r stad, yn awyddus i weld byd natur yn ffynnu ar ei safle ac rydyn ni wedi gosod dau focs i dylluanod gwynion yn eu lle ar ei gyfer. Mae’r tylluanod yn hela uwch ben y glaswelltir garw ar hyd ymyl y cwrs, sy’n gartref i lygod pengrwn y gallant eu bwyta a’u bwydo i’w cywion. Hefyd mae gan y cwrs golff lawer o goed sy’n chwarae rhan bwysig mewn amsugno carbon er mwyn helpu i drechu newid hinsawdd.

Wrexham Golf Club, Wrexham Industrial Estate

© Wrexham Golf Club

Cefnogaeth Gorfforaethol

Ar gyfer busnesau sy'n dymuno cefnogi ein gwaith ni ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam, ac ar draws Gogledd Cymru, rydyn ni hefyd yn cynnig 'Partneriaethau Naturiol'. Mae’r gefnogaeth gorfforaethol yma i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ein helpu ni i wneud ein gwaith: mewn gwarchodfeydd natur, yn y dirwedd ehangach a’r moroedd, yn ogystal ag o fewn cymunedau lleol. Mae llawer o fanteision i’w cael o gefnogi'r Ymddiriedolaeth yn y ffordd yma a gall roi hwb pellach i'ch rhinweddau amgylcheddol.

Dysgwch fwy am ddod yn gefnogwr corfforaethol

Adrian Lloyd Jones, Head of Living Landscapes

adrian.jones@northwaleswildlifetrust.org.uk