![Coed Cilygroeslwyd Nature Reserve](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-02/Coed%20Cilygroeslwyd_022.jpg?h=dbfb23f9&itok=xtRvbl4W)
Coed Cilygroeslwyd Nature Reserve
![Hawfinch](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/third_light/Hawfinch_c_Andy_Morffew.jpg?h=5f29f7b4&itok=Hl4mYmrp)
Hawfinch © Andy Morffew
![Wood anemone](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/third_light/Wood_Anemone_-_Anemone_nemerosa_cpt_Bruce_Shortland.jpg?h=5f29f7b4&itok=KSgeRD7a)
Wood anemone © Bruce Shortland
![Bluebells](/sites/default/files/styles/node_hero_default/public/2018-05/Bluebells_Katrina%20Martin%20%202020VISION_wildlifetrusts_40575540211.jpg?h=7685ba0d&itok=YrI3uCzc)
Bluebells - Katrina Martin 2020Vision
Gwarchodfa Natur Coed Cilygroeslwyd
Lleoliad
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ar gyfer corws y wawr, gwybedog brith a chennin Pedr gwylltAm dan y warchodfa
Yr hen a’r newydd
Mae’r coetir yma o goed llydanddail cymysg a choed yw yn cynnwys sawl sypreis – ac un o’r rheiny yw nad yw mor hen ag y mae rhywun yn ei feddwl, er gwaetha’r blodau gwyllt sydd yma (blodau’r gwynt, llysiau’r eryr per, clust yr arth a chlychau’r gog) sy’n cael eu cysylltu gan amlaf â choetiroedd hynafol. Gall daeareg sylfaenol y safle esbonio hyn: mae’r coetir wedi’i leoli ar balmant calchfaen eang, gyda’r craciau’n creu micro-hinsawdd perffaith i alluogi’r planhigion hyn i oroesi hyd yn oed pan ddiflannodd y coetir hynafol gwreiddiol, ac er i’r tir gael ei bori. Er mai derw ac ynn yw’r canopi yn bennaf, mae’r ardaloedd o goed yw yn fwy anarferol, a’u hadau yw hoff fwyd y gylfinbraff dros y gaeaf. (Dyma’r unig goetir yw yng Nghlwyd.) Mae’r briwlys calchfaen yn rhywogaeth brin arall ar y safle. Dyma flodyn sirol Sir Ddinbych a dim ond ar ddau safle yng Nghymru mae i’w weld.
Cyfarwyddiadau
Mae Coed Cilygroeslwyd 2 filltir i’r de o Ruthun ar yr A494. Ewch tua’r de ar hyd y ffordd hon a throi i’r chwith wrth weld arwydd am Lanfair DC. Parciwch yn y gilfan (SJ 127 553) ond peidiwch â blocio giât y cae. Cerddwch yn ôl dros y bont, croeswch yr A494 yn ofalus ac wedyn dilynwch y llwybr troed i fyny i’r warchodfa (SJ 124 552). Mae lle parcio arall, a lluniaeth, ar gael yn Siop Pwllglas: defnyddiwch fap i ddilyn yr hawliau tramwy cyhoeddus i fyny’r lôn (heibio Capel y Rhiw) ac ar draws y caeau i’r warchodfa.