Gwarchodfa Natur Bryn Pydew
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ac yr hafAm dan y warchodfa
Calchfaen hyfryd
Ar ddiwrnod prysur o haf, mae bwrlwm y bywyd yng Ngwarchodfa Natur Bryn Pydew yn ail-greu llafur diwydiannol hen swyddogaeth y safle fel chwarel galchfaen. Mae palmentydd calchfaen am yn ail â rhedyn gwyrdd ir yn arwain i lawr i laswelltir llawn blodau (gan gynnwys digonedd o degeirianau) a phrysgwydd eithin, sydd wedyn yn ildio’u lle i goetir ynn ac yw. Mae’r amrywiaeth yma o gynefinoedd mewn ardal ddaearyddol mor fechan yn gartref i gyfoeth o blanhigion sydd, yn eu tro, yn sicrhau bod y safle’n gartref i amrywiaeth enfawr o infertebrata: mae mwy nag 20 o rywogaethau o löynnod byw a 500+ o rywogaethau o wyfynod wedi’u cofnodi yma. Ar nosweithiau cynnes, tywyll yng nghanol yr haf, efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld golau gwyrdd y pryfed tân yn disgleirio. Mae eu larfa’n bwydo ar y malwod niferus sydd yma!
Rhywogaethau anfrodorol anghynnes
Mae’r ardaloedd o galchfaen agored yn cael eu cadw’n glir o rywogaethau anfrodorol fel creigafal a derw bytholwyrdd. Heb eu harchwilio, byddent yn gwneud difrod i’r palmant ei hun ac yn rheoli’r casgliad o blanhigion. Mae’r glaswelltir yn cael ei dorri a’i glirio yn yr hydref i ddynwared gweithgarwch anifeiliaid pori, gan ei gadw mewn cyflwr da ar gyfer blodau gwyllt y flwyddyn ganlynol.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae palmant calchfaen yn ffurfio drwy gyfuniad o erydiad a hindreuliad cemegol. Fel nodweddion daearegol arbennig, mae ganddynt eu terminoleg eu hunain: clintiau yw’r blociau o galchfaen sy’n ffurfio’r palmant; mae pantiau a cheudodau o’r enw karren yn gorchuddio eu harwyneb. Greiciau yw’r craciau dwfn sy’n gwahanu’r clintiau – gallant fod ymhell dros fetr o ddyfnder.
Cyfarwyddiadau
Mae’r safle yma yng nghanol y bryniau rhwng Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a Chyffordd Llandudno. Wrth ddod am Landudno ar hyd yr A470, trowch i’r dde am Esgyryn yn y cylchfan cyntaf ac wedyn troi i’r dde bob tro ar Ffordd Esgyryn, Ffordd Pydew a Ffordd Bryn Pydew. Mae’r maes parcio ar ffurf cilfan a’r fynedfa i’r warchodfa tua milltir ymhellach ymlaen (SH 818 798).