Gwarchodfa Natur Blaenyweirglodd

Blaen-y-Weirglodd Nature Reserve

Blaen-y-Weirglodd Nature Reserve

Redstart

Redstart © Mark Hamblin 2020VISION

Hare
Bog Asphodel

Bog Asphodel © Philip Precey

Gwarchodfa Natur Blaenyweirglodd

Noddfa wyllt yng nghanol môr o dir amaethyddol. Mae’r gors fawn yma’n gartref i gasgliad lliwgar o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol.

Lleoliad

Llansannan
Conwy
LL16 5LP

OS Map Reference

SH913633
OS Explorer Map 264
A static map of Gwarchodfa Natur Blaenyweirglodd

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
4 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae parcio ar gael ar ochr y ffordd: SH911634

Anifeiliaid pori

Gwartheg a defaid, dechrau’r gwanwyn a diwedd yr haf.

Llwybrau cerdded

Mae’r sffagnwm yn cymryd blynyddoedd i adfer ar ôl cael ei sathru felly plîs peidiwch â cherdded dros y gors. Cadwch at y llwybrau a ganiateir o amgylch ffin y warchodfa. Gall y caeau agored rydych yn eu croesi i gyrraedd y safle gynnwys gwartheg a defaid – cofiwch eu parchu bob amser.

Mynediad

Mae’r safle’n wlyb iawn ac yn anffodus nid yw’n hwylus ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symud. 

Cŵn

Ar dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Trwy gydol y flwyddyn

Am dan y warchodfa

Ein mawndiroedd gwerthfawr

Ar yr olwg gyntaf, gall y warchodfa yma edrych fel cymysgedd o wyrdd a brown heb lawer yn digwydd ynddi. Ond dim ond ychydig o archwilio sydd ei angen i ddarganfod bod corsydd mawn ymhlith cynefinoedd mwyaf amrywiol y wlad. Mae mawndiroedd yn cynnig manteision i bobl hefyd: mae mawndiroedd y DU yn storio tua 4,500 miliwn o dunelli o garbon atmosfferig (mae hynny 100 gwaith yn fwy na holl lystyfiant y DU, gan gynnwys coed) ac mae 70% o’n dŵr yfed yn dod o ddalgylchoedd afon mawndir. Yn anffodus, mae’r cynefin hwn o dan fygythiad – arferai fod yn gyffredin ledled y DU ond ychydig o gorsydd mawn sydd ar ôl erbyn heddiw, ar ôl iddynt gael eu draenio ar gyfer tir amaethyddol a fforestydd.

             
Ceir chwe amrywiaeth o fwsogl sffagnwm ym Mlaen-y-Weirglodd, a hefyd amrywiaeth enfawr o blanhigion arbenigol fel llafn y bladur, chwys yr haul, ffa’r gors a phlu’r gweunydd. Ochr yn ochr â’r holl blanhigion amrywiol yma ceir amrywiaeth enfawr o infertebrata, gyda mwy na 230 o rywogaethau wedi’u cofnodi ar y safle. Yn eu tro, mae’r rhain yn denu adar fel y tingoch, y pengoch a’r llinos.

Cyfarwyddiadau

Mae’r warchodfa 2 filltir i’r de orllewin o Lansannan. Wrth deithio o’r cyfeiriad yma, gadewch y B5382 a dilyn y B5384 i gyfeiriad Gwytherin. Cymerwch yr ail dro i’r chwith, mynd dros grid gwartheg ac wedyn edrych am gilfan fechan ar y dde (SH 911 634: os byddwch yn cyrraedd y grid gwartheg nesaf, byddwch wedi mynd yn rhy bell). Parciwch yma, croesi’r ffordd a cherdded i fyny dros y cae ar y chwith, gan fynd drwy giât mochyn a dilyn yr hen glawdd ar y chwith i chi er mwyn cyrraedd y warchodfa.
 

Cysylltwch â ni

Jordan Hurst
Cyswllt ffôn: 01248 351541
Hare

Hare © David Tipling 2020 Vision

Cefnogwch ni

Dod yn aelod heddiw
Event - moth-trapping

© Ross Hoddinott/2020VISION

Volunteer sawing

Katrina Martin / 2020VISION