Gwarchodfa Natur Coed y Felin
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Gwanwyn ar gyfer blodau coetir a gwybedog brith. Haf ar gyfer y ddôl llawn blodau ger y maes parcio dwyreiniol.Am dan y warchodfa
Cymunedau lliwgar
Mae llwybrau hynafol yn igam-ogamu drwy’r coetir hwn, gan adael cliwiau am ei gysylltiadau ers amser maith â’r boblogaeth leol. Mae’r coed yma wedi cael eu defnyddio i gefnogi’r pentref mwyngloddio lleol ers canrifoedd. Ond heddiw, fodd bynnag, does dim diwydiant i’w weld yma: mae’r coetir heddychlon a’r glaswelltir heulog yn llawn lliw a bywyd, gan gynnwys y pinc Deptford cenedlaethol brin a dwsinau o flodau gwyllt gogoneddus eraill. Mae’r aer yn llawn cân yr adar a phersawrau cyfoethog, perlysieuol yn ystod y gwanwyn a’r haf. Yn yr hydref, y coed yw gogoniant y safle. Mae’r amrywiaeth o rywogaethau’n creu clytwaith hudolus o goch, brown a melyn – delfrydol i fynd am dro yn eu canol ...
Dôl wair wedi’i thorri â llaw
Er mwyn cynnal y poblogaethau o flodau gwyllt, gan gynnwys pinc Deptford, mae glaswelltir calchfaen y warchodfa’n cael ei reoli fel dôl wair ac yn cael ei dorri gan ddefnyddio peiriannau a phladuriau. Mae’r coetir hynafol, lled-naturiol sy’n gorchuddio mwyafrif y safle a’r ardaloedd is o goetir gwlyb yn cael eu rheoli heb fawr ddim ymyrraeth: mae’r coed yn cael eu teneuo yma ac acw er mwyn cynnal strwythur oedran amrywiol sy’n galluogi i’r coed eu hunain a’r planhigion islaw ffynnu.
Oeddech chi’n gwybod?
Er ei fod wedi cael ei enwi ar ôl y dref yn nwyrain Llundain, nid yw’n debygol bod pinc Deptford wedi tyfu yno erioed. Cafodd ei enwi ar ôl y botanegydd o’r ail ganrif ar bymtheg, Thomas Johnson, a chredir ei fod wedi camenwi’r blodyn pinc newydd.
Cyfarwyddiadau
Mae’r warchodfa 4 milltir i’r gogledd orllewin o’r Wyddgrug. Wrth ddilyn yr A541 o’r Wyddgrug i Ddinbych, dilynwch y ffordd i’r dde wrth ddod i mewn i Hendre (SJ 196 677). Wrth i chi ddod rownd tro i’r chwith, fe welwch chi faes parcio’r warchodfa ar y chwith (SJ 195 677). Am lwybr hygyrch ar hyd yr hen drac rheilffordd, ewch ymlaen ar hyd yr A541 nes cyrraedd Tafarn y Royal Oak, trowch i’r dde i fyny’r trac gyferbyn (tu ôl i Beech Cottage) ac mae maes parcio bychan lle mae’r llwybr yn dechrau.