
Y Ddol Uchaf Nature Reserve

Nuthatch © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Lesser Celandine_Ross Hoddinott2020Vision

Chiffchaff - Janet Packham Photography
Gwarchodfa Natur Ddôl Uchaf
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Haf ar gyfer blodau dôl a gweision y neidr sy'n dod i'r amlwgAm dan y warchodfa
Daeareg ar waith
Mae’r hen chwarel yma’n ffynnu heddiw fel clytwaith o goetir, glaswelltir, pyllau ac afon sy’n llawn bywyd gwyllt. Mae’r priddoedd llawn calchfaen yn creu amodau perffaith i flodau gwyllt y glaswelltir fel plucan, briallu Mair sawrus, eurinllys a’r tegeirian brych cyffredin. Mae golau brith yr haul yn cyfateb i wyn a melyn blodau’r gwanwyn sy’n gorchuddio llawr y coetir, gyda ffrydio’r dŵr a chân yr adar yn drac sain hamddenol braf yn y cefndir. Mae canopi gwyrdd a ffrwythlon y coetir yn cynnwys sycamorwydd, ynn a helyg a’r haen isaf yn cynnwys drain gwynion, ysgaw a chyll. Mae nodweddion daearegol anarferol y safle (y clai marl gweddillol, a adawyd yma ar ôl y gwaith chwarelu twffa) yn helpu i ddal y dŵr glaw, gan ffurfio pyllau sy’n cael eu ffafrio gan dair rhywogaeth frodorol o fadfall y dŵr – llyfn, palfaidd a chribog mawr – yn ogystal â nadroedd y gwair a llawer o weision y neidr.
Teneuo, plannu a phyllau
Yr allwedd gyda rheoli’r holl gynefinoedd yn Y Ddôl Uchaf yw cynnal yr amrywiaeth – gan sicrhau cydbwysedd rhwng popeth. Mae’r coetir yn cael ei deneuo’n ofalus er mwyn rheoli’r strwythur oedran ac i sicrhau bod ardaloedd o ganopi agored yma, fel bod modd i adfywio naturiol ddigwydd. Bob hydref, mae’r glaswelltir yn cael ei dorri gyda llaw gan ddefnyddio pladuriau er mwyn cynnal ei amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau. Mae rhannau o’r pyllau’n cael eu clirio a’r llifwaddod yn cael ei symud bob blwyddyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y dŵr yn parhau’n agored. Weithiau mae plannu llwyni, fel gwyddfid, yn darparu ffynhonnell fwyd amrywiol i bathewod, ac mae’r cyll yn cael eu tocio i greu’r amodau gorau ar gyfer nythu.
Cyfarwyddiadau
Mae’r warchodfa oddeutu 1 km i’r dwyrain o Afonwen yn Sir y Fflint, ar yr A541 rhwng yr Wyddgrug a Dinbych. Ewch tua’r dwyrain a throi i’r chwith oddi ar yr A541 yng Nghapel y Ddôl ac wedyn dilyn y lôn am 400m. Trowch i’r chwith yn y gyffordd – mae’r fynedfa i’r maes parcio ar y chwith gyferbyn â’r Felin (SJ 142 713).