
Y Graig © NWWT

Y Graig nature reserve

Bluebells - Katrina Martin 2020Vision

Green hairstreak © Paul Thrush

Hebridean sheep © Martin Baxter

Margaret Holland

© NWWT
Gwarchodfa Natur Y Graig
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Haf ar gyfer blodau gwyllt, yn enwedig rhosyn creigiauAm dan y warchodfa
Hafan ar lethrau’r bryn
Wedi’i lleoli ar allgraig galchfaen, mae’r warchodfa hon yn cynnwys cynefinoedd amrywiol ac mae’n hafan i fywyd gwyllt yng nghanol ei hamgylchedd hynod amaethyddol. Coetir yw gogledd y safle; mae’r derw, y ffawydd a’r llwyfenni’n creu canopi trwchus, cysgodol ac oddi tano mae lliwiau clychau’r gog, clust yr arth a fioled y cŵn yn disgleirio yn y gwanwyn. Mae synau adar y coetir yn eich amgylchynu chi ac mae glöynnod byw brith y coed yn troelli yng nghanol y canopi. Wrth i’r llethrau droi’n serthach, mae’r coetir yn newid i fod yn laswelltir ac mae’r golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Clwyd i’w gweld o’ch blaen. Mae arddangosfeydd rhyfeddol o rosod y graig yn gorchuddio’r glaswelltir ac yn dynodi dyfodiad yr haf, gan lenwi’r dirwedd gyda melyn llachar. Wrth iddi nosi, mae’r glaswelltir yn datgelu cyfrinach yr haf: daw golau gwyrdd cynnil y pryfed tân i gymryd lle lliwiau llachar y blodau gwyllt yn ystod y dydd.
Defaid tymhorol
Mae’r glaswelltir yn cael ei bori’n ysgafn gan ddefaid Hebrideaidd o ddiwedd yr haf tan y gaeaf, ac mae hynny o fudd i lawer o’r planhigion brodorol drwy gynnal lefelau maethynnau isel yn y pridd. Mae pori, a chael gwirfoddolwyr i dorri’r mieri yn ôl, yn helpu i gadw’r prysgwydd a’r egin-goed sy’n ymledu draw. Nid oes llawer o ymyriadau’n digwydd yn y coetir: mae’n cael ei reoli fel fforest, gyda dim ond ambell goeden yn cael ei thorri i agor y canopi. Mae hyn yn sicrhau bod golau’r haul yn cyrraedd fflora’r ddaear ac yn annog coed newydd i ddatblygu ac adfywio’r coetir.
Cyfarwyddiadau
Mae gwarchodfa’r Graig i’w gweld ryw 0.5 milltir i’r de o Dremeirchion, ychydig oddi ar y B5429. O’r A55, ewch tua’r de yn Rhuallt, ar y B5429. Ewch drwy Dremeirchion a chadw llygad am dŷ carreg a chapel brics coch ar y dde. Yn union gyferbyn â’r adeiladau hyn, trowch ar y lôn lle gallwch barcio a chael mynediad i’r warchodfa drwy giât cae neu dros gamfa (SJ 083 721).