Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae YNGC wedi bod yn dod â phobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru’n nes at y bywyd gwyllt rhyfeddol sydd ar garreg eu drws ac yn eu hysbrydoli i weithredu a gwarchod yr amgylchedd naturiol. Nawr, mae tîm prosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’, sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno’r gwaith arloesol yma, yn cynnig cynllun hyfforddi cadwraeth unigryw sy’n para pythefnos i bobl ifanc (16-24 oed) sy’n byw ar Ynys Môn, Gwynedd a Conwy. Mae’r rhaglen wedi cael ei chynllunio i roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau cadwraeth ymarferol, dysgu mwy am yr amgylchedd naturiol ac, yn bwysicach na dim, cael amrywiaeth o achrediadau ffurfiol yn dystiolaeth o’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun 20 Gorffennaf a dydd Gwener 31 Gorffennaf ac yn rhoi sylw i’r canlynol:
- Hyfforddiant cadwraeth ymarferol yn defnyddio amrywiaeth o gelfi llaw
- Cymorth cyntaf (cwrs undydd)
- Rheoli gwarchodfa natur
- Adnabod rhywogaethau
- Cadwraeth y môr a’r tir – beth yw’r gwahaniaeth?
- Cydlynu pobl
- Cynnwys y gymuned leol – sut a pham?
- Cynnal gweithgareddau gwyddoniaeth y dinesydd