Ar ôl nifer o flynyddoedd o edrych ar ôl y lle, mae Richard Williams newydd ymddeol fel warden gwirfoddol yn Aberogwen Spinnies. Mae o wedi bod yn ymweld â’r warchodfa pob wythnos yn cynnal ac hefyd yn ail-lwytho y bwytawyr i’r adar y tu allan i’r ddwy guddfan – y rhan fwyaf o’r adeg, o’i boced ei hyn. Mae gwylio’r adar yn rhoi pleser mawr i lawer o’r ymwelwyr – yn cynnwys ffotograffwyr, sydd wedi syfrdanu i weld adar y goedlan (yn cynnwys y dringwr bach, y titw penddu ac ar rhai adegau prin ambell i gylfinbraff) mor agos iddynt
Arwr Aberogwen Spinnies
Pam fod niferoedd yr ymwelwyr wedi codi ers bod Richard wedi dechrau gwirfoddoli?
Trwy ei gyfnod gyda’r Ymddiriedolaeth Natur, mae Richard wedi gweithio yn agos iawn hefo ein staff – drwy helpu rheoli’r warchodfa ar y partïon gwaith rheolaidd, yn gwella y llwybrau, gosod blychau nythu ac yn ymwneud â unrhyw waith cynnal a chadw arall sydd angen. Mae Richard yn haeddu lot o’r clod fod Aberogwen Spinnies yn mwynhau ei statws uchel hefo’r aelodau a’r ymwelwyr – rydym yn lwcus iawn ein bod wedi gael o!