Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod prosiect Tirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam wedi derbyn cyllid o sawl ffynhonnell er mwyn parhau â’n gwaith i helpu bywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd yn yr ardal hon am flwyddyn arall. Bydd yr adnoddau yn ein galluogi ni i adfer mwy o ddolydd, hau lleiniau blodau gwyllt, rheoli coetir, cloddio pyllau a chreu mannau eistedd yn yr awyr agored i staff gael blas ar fyd natur yn ystod eu diwrnod. Yr oll yn cyfrannu at uchelgais yr Ymddiriedolaethau Natur i gysylltu ac amddiffyn o leiaf 30% o’n tir a môr erbyn 2030 er mwyn adfer bywyd gwyllt.