Mae’r warchodfa natur fechan, hardd yma ar gyrion Stad Castell Penrhyn, yn edrych draw dros Afon Menai. Mae’n cynnwys coetir a llennyrch o laswellt o amgylch tri môr-lyn. Yn allweddol, mae lefel yr halen yn y môr-lynnoedd yn amrywio; mae’r warchodfa’n cael ei bwydo gan ddŵr croyw o’r mynyddoedd ond mae dŵr halen o ochr yr aber yn cael ei ychwanegu ato hefyd. Mae’r ffaith bod yr halltedd yn newid yn raddol yn creu newid diddorol mewn cynefinoedd ar draws y system hefyd – gan gynnal infertebrata dŵr croyw yn y ‘top’ a chrancod a llysywod yn y ‘gwaelod’.
Difyr drwy’r amser …
Heron with an eel at Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Steve Ransome

Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Bethan Vaughan Davies
Efallai bod gwarchodfa Spinnies Aberogwen yn fwy nodedig am ei hadar a’i chuddfannau gwylio. Dylai ychydig oriau o archwilio’r tri chuddfan ar y safle fod yn gyfle i chi weld adar cyffredin a llai cyffredin yr ardd ar declynnau bwydo; hwyaid gwyllt, crehyrod bach, ieir dŵr a rhegennod dŵr yn trochi a stelcian yn y môr-lynnoedd a’r cawn; ac elyrch dof, gylfinirod, piod môr a chrehyrod glas ar yr aber. Mae yma hefyd las y dorlan lled-breswyl ac eiconig – yr aderyn sy’n cael tynnu ei lun amlaf (ar wahan i weilch y pysgod) yng Ngogledd Cymru!
Agorwyd y trydydd cuddfan – a adeiladwyd diolch i rodd ardderchog gan un o’r wardeiniaid gwirfoddol, Steve – yn swyddogol gan Iolo Williams ar 21 Mehefin. Gwnaed y gwaith gan Fred Kehoe o Kehoe Countryside – un o Bartneriaid Natur yr Ymddiriedolaeth Natur a chefnogwyr tymor hir hael. Mae’r adeilad o ganlyniad yn llafur cariad yng ngwir ystyr y gair. Mae’r fframwaith o ffynonellau lleol i gyd wedi’i greu o ffynidwydd Douglas a’r cladin o dderw, gyda’r holl goed wedi’u torri a’u sychu gan Fred. Mae’r strwythur cyfan yn sefyll ar goesau o blastig wedi’i ailgylchu er mwyn sicrhau ei hirhoedledd mewn tywydd gwlyb.